Back to news listing

Next article

NEWS: Professional Registration of the workforce / Gofrestru'r gweithlu yn Broffesiynol

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  Read this in Welsh here

Updated 24/01/24

The Deputy Minister for Social Services has announced the launch of the Welsh Government consultation on professional registration of the childcare and playwork workforce.

The consultation is seeking views from those managing or working in childcare and playwork settings across Wales on some fundamental questions regarding whether the childcare and playwork sector should have a workforce register and if so, who should be included in that register.

The full consultation document outlines what a workforce register is, how it could impact the childcare and playwork sector and proposes who should have to join a register.

PACEY Cymru held an engagement session with members on the 24 January and will feed the views from this into our response.

In addition Welsh Government are holding two further engagement sessions to hear more from providers and give you the opportunity to share your views. These are being held online on the following dates;

  • 6 February 6.30-7.30pm
  • 19 February 6.30-7.30pm

To book a space on either session please email Welsh Government direct ChildcareAndPlayworkConsultation@gov.wales 

As stated PACEY Cymru are keen to hear the views from the wider sector, especially those who are unable to attend one of the events. We have produced a short survey for you to share your views. 

We strongly recommend that you listen to the video below and read the consultation document to fully understand the implications and proposals before completing the survey.

This survey will close at 1pm on Tuesday 20 February. 

As noted above this is an important topic and your views are vitally important to shape our consultation response which has to be submitted by the 7th March 2024.

FAQs are also available.

If you have any queries please email paceycymru@pacey.org.uk.

 

Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi lansio ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gofrestru'r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yn broffesiynol.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn y rhai sy'n rheoli neu'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae ledled Cymru ar rai cwestiynau sylfaenol ynghylch a ddylai'r sector gofal plant a gwaith chwarae fod â chofrestr o'r gweithlu ac os felly, pwy ddylai gael ei gynnwys yn y gofrestr honno.

Mae'r ddogfen ymgynghori lawn yn amlinellu beth yw cofrestr o weithlu, sut y gallai effeithio ar y sector gofal plant a gwaith chwarae ac yn cynnig pwy ddylai orfod ymuno â chofrestr.

Cynhaliodd PACEY Cymru sesiwn ymgysylltu ag aelodau ar 24 Ionawr a bydd yn bwydo’r safbwyntiau o hyn i’n hymateb.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal dwy sesiwn ymgysylltu arall i glywed mwy gan ddarparwyr a rhoi cyfle i chi rannu eich barn. Mae'r rhain yn cael eu cynnal ar-lein ar y dyddiadau canlynol:

  • 6 Chwefror 6.30-7.30yh
  • 19 Chwefror 6.30-7.30yh

I gadw lle ar un o’r sesiynau, e-bostiwch Lywodraeth Cymru yn uniongyrchol ChildcareAndPlayworkConsultation@llyw.cymru

Fel y dywedwyd, mae PACEY Cymru yn awyddus i glywed barn y sector ehangach, yn enwedig y rhai nad ydynt yn gallu mynychu un o'r digwyddiadau. Rydym wedi cynhyrchu arolwg byr i chi rannu eich barn.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gwrando ar y fideo isod ac yn darllen y ddogfen ymgynghori i ddeall yn llawn y goblygiadau a'r cynigion cyn cwblhau'r arolwg.

Bydd yr arolwg yn cau am 1pm ddydd Mawrth 20 Chwefror.

Fel y nodwyd uchod mae hwn yn bwnc pwysig ac mae eich barn yn hanfodol bwysig i lunio ein hymateb i'r ymgynghoriad. 

Mae Cwestiynau Cyffredin hefyd ar gael.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost paceycymru@pacey.org.uk