Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.
Following the changes in Wales to the system to support children with additional learning needs over recent years, PACEY Cymru are looking to gather your views and experiences.
PACEY Cymru is working on a response to the Welsh Parliament Children, Young People and Education Committee inquiry and consultation on the topic of whether disabled children and young people have equal access to education and childcare. In this inquiry, the Committee would like to understand how children and young people who are neurodivergent, have physical, sensory, or learning disabilities are able to access all aspects of education and childcare. You can read more about the consultation, which is open until 29 September 2023 here.
We are looking to gather feedback from members to support our response, this includes seeking to understand to what extent you can offer childcare for children with additional learning needs and/or disabilities, including any barriers to this. We would also like to explore the ALN training accessed and further training needs, as well as your knowledge and experience of local early years ALN systems and support.
PACEY Cymru will be hosting a focus group on Additional Learning Needs in Wales, at 6.30pm on Thursday, 10th August 2023 to gather your views. Please book your place on Zoom at book here or find out more on our events page Consultation: Additional Learning Needs.
If you are unable to attend our consultation event but would like to share your views with us or have any queries, please email paceycymru@pacey.org.uk.
Yn dilyn y newidiadau yng Nghymru i’r system i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol dros y blynyddoedd diwethaf, mae PACEY Cymru eisiau casglu eich barn a’ch profiadau.
Mae PACEY Cymru yn gweithio ar ymateb i ymchwiliad ac ymgynghoriad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Senedd Cymru ar y pwnc a yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal i addysg a gofal plant. Yn yr ymchwiliad hwn, hoffai’r Pwyllgor ddeall sut y gall plant a phobl ifanc sy’n niwrowahanol, neu sydd ag anableddau corfforol, anableddau synhwyraidd neu anableddau dysgu gael mynediad at bob agwedd ar addysg a gofal plant. Gallwch ddarllen rhagor am yr ymgynghoriad, sydd ar agor tan 29 Medi 2023 yma.
Rydym am gasglu adborth gan aelodau i gefnogi ein hymateb, gan gynnwys ceisio deall i ba raddau y gallwch chi gynnig gofal plant i blant ag anghenion dysgu ychwanegol a/neu anableddau, gan gynnwys unrhyw rwystrau i hyn. Hoffem hefyd archwilio’r hyfforddiant ADY a gyrchwyd ac anghenion hyfforddi pellach, yn ogystal â’ch gwybodaeth a’ch profiad o systemau a chymorth ADY blynyddoedd cynnar lleol.
Bydd PACEY Cymru yn cynnal grŵp ffocws ar Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru, am 6.30pm ddydd Iau, 10 Awst 2023 i gasglu eich barn. Archebwch eich lle ar Zoom yn yr adran archebu yma neu'r adran dysgu rhagor ar ein tudalen digwyddiadau Ymgynghoriad: Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Os na allwch ddod i'n digwyddiad ymgynghori ond yr hoffech rannu eich barn â ni neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk.