PACEY Cymru
17 October 2023
Darllennwch yma yng Nghymraeg. Read this in Welsh here.
We are pleased to share that Children in Wales and the Professional Association for Childcare and Early Years (PACEY Cymru) have formed an exciting new partnership. This partnership will see both organisations collaborate on the development and delivery of safeguarding training for the childcare and early years workforce in Wales.
In May 2023, Welsh Government introduced revised National Minimum Standards for Regulated Childcare for children up to the age of 12 years this included clearer guidance on safeguarding training requirements in Wales
PACEY Cymru and Children in Wales will work in partnership to develop a package of training for the sector in line with the revised standards. Together, Children in Wales and PACEY Cymru will utilise their experience of the sector and safeguarding knowledge to develop a refreshed training package that meets the needs of all those working in childcare and early years settings. It is planned that this bilingual training will be delivered through a blended approach of self-directed online learning and trainer led learning.
Hugh Russell, CEO at Children in Wales said:
“It’s great to be working with PACEY Cymru to create a bespoke package of training in line with Welsh Government’s revised standards for childcare settings.
Safeguarding is at the core of our work at Children in Wales and we’re looking forward to bringing our knowledge and expertise together to create relevant and accessible training for our members and childcare settings across Wales”.
Claire Protheroe, Head of Contracts and Projects at PACEY said:
“We are very excited to be working with Children in Wales and bringing together our knowledge and experience in this area to support the sector. The new National Safeguarding Training, Learning and Development Standards launched in November 2022 that are reflected in the revised National Minimum Standards will inform our programme of development and delivery. The outcome of this partnership will support our goal in having a knowledgeable workforce that understand the role they have to play to support children’s safety and welfare.”
PACEY Cymru will look to share more information in the coming months as the work develops. If you have any queries please email paceycymru@pacey.org.uk.
Mae’n bleser gennym rannu bod Plant yng Nghymru a’r Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru) wedi ffurfio partneriaeth newydd gyffrous. Bydd y bartneriaeth hon yn gweld y ddau sefydliad yn cydweithio ar ddatblygu a darparu hyfforddiant diogelu ar gyfer y gweithlu gofal plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Ym mis Mai 2023, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed, gan gynnwys canllawiau cliriach ar ofynion hyfforddiant diogelu yng Nghymru.
Bydd PACEY Cymru a Plant yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu pecyn o hyfforddiant ar gyfer y sector yn unol â’r safonau diwygiedig. Gyda’i gilydd, bydd Plant yng Nghymru a PACEY Cymru yn defnyddio eu profiad o’r sector a’u gwybodaeth diogelu i ddatblygu pecyn hyfforddi wedi’i adnewyddu sy’n diwallu anghenion pawb sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant a blynyddoedd cynnar. Y bwriad yw y bydd yr hyfforddiant dwyieithog hwn yn cael ei gyflwyno drwy ddull cyfunol o ddysgu ar-lein hunangyfeiriedig a dysgu dan arweiniad hyfforddwr.
Dywedodd Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru:
“Mae’n wych gweithio gyda PACEY Cymru i greu pecyn hyfforddiant pwrpasol yn unol â safonau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar gyfer lleoliadau gofal plant.
Mae diogelu wrth wraidd ein gwaith yn Plant yng Nghymru ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â’n gwybodaeth a’n harbenigedd ynghyd i greu hyfforddiant perthnasol a hygyrch i’n haelodau a lleoliadau gofal plant ledled Cymru”.
Dywedodd Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau yn PACEY:
“Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Plant yng Nghymru ac yn dod â’n gwybodaeth a’n profiad yn y maes hwn ynghyd i gefnogi’r sector. Bydd y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol newydd a lansiwyd ym mis Tachwedd 2022 ac a adlewyrchir yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig yn llywio ein rhaglen ddatblygu a chyflawni. Bydd canlyniad y bartneriaeth hon yn cefnogi ein nod o gael gweithlu gwybodus sy’n deall y rôl sydd ganddynt i’w chwarae i gefnogi diogelwch a lles plant.”
Bydd PACEY Cymru yn edrych i rannu mwy o wybodaeth yn y misoedd nesaf wrth i'r gwaith ddatblygu. Os oes gennych unrhyw ymholiadau anfonwch e-bost paceycymru@pacey.org.uk.