PACEY Cymru
09 November 2023
Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here.
CIW have published their Annual Report for 2022-2023. The report contains key reflections and findings from the past year, providing an insight into the registration, regulation and inspection of childcare and play settings across Wales.
Key areas noted within the report are;
- We saw an overall decrease in services (-4%) and places (-3%) registered for childcare and play compared to last year. The largest number reduction was once again in childminders, with 97 (-6%) fewer services and 697 (-5%) fewer places
- The decline in the number of childminders is a trend evident in recent years and the subject of considerable concern and interest from all concerned with supporting the childcare and play sector.
- The reduction in services and places in sessional and out of school day care continues the downward trend reported last year.
- The most common rating recorded is Good (415), followed by Adequate (261). We awarded Excellent on 98 occasions and Poor 48 times.
- There were 549 concerns raised in 2022/23, the majority (385) about full day care settings.
Publishing her annual report Chief Inspector, Gillian Baranski said:
"Some of the topics covered in this report will not make easy reading. This is a difficult time for the sectors we regulate and inspect and yet, our inspectors consistently find most services are providing good, safe care for those who use them. It is important we continue to celebrate the wonderful work that goes on in care services throughout Wales on a daily basis, and to give people hope too.
Another demanding year, another year of exceptional commitment and dedication from all those working in social care and childcare and play services. They richly deserve our appreciation and thanks.
It is such a privilege to be Chief Inspector of an organisation that makes a difference to the lives of so many people across Wales. What we do can only be achieved by the hard work and passion of our staff, and I am deeply grateful to each and every one of them.
Let’s capture and celebrate good practice and share it widely and often. Promoting positive cultures and practice is something we will be doing a lot more of during the coming year, and you can expect to read more about this in next year’s report."
Claire Protheroe, Head of Head of Contracts and Projects for PACEY said;
"PACEY Cymru welcome the publication of the CIW annual report. The decline of childminders in Wales continues to cause concern. Work linked to the Independent Review of Childminding in Wales is ongoing however PACEY Cymru believe this is a critical time for the childminding sector in Wales and it has reached a crisis point where if swift, decisive action is not taken recovery will be too late."
If you have any queries, please email paceycymru@pacey.org.uk
Mae AGC wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2022-2023. Mae'r adroddiad yn cynnwys myfyrdodau a chanfyddiadau allweddol o'r flwyddyn ddiwethaf,yn darparu mewnwelediad i gofrestru, rheoleiddio ac arolygu gofal plant a lleoliadau chwarae ledled Cymru.
Y meysydd allweddol a nodwyd yn yr adroddiad yw;
- Gwelsom leihad cyffredinol yn nifer y gwasanaethau (-4%) a’r lleoedd (-3%) gofal plant a chwarae cofrestredig o gymharu â’r flwyddyn ddiwethaf. Unwaith eto, roedd y lleihad mwyaf i’w weld ar gyfer gwarchodwyr plant, gyda 97 (-6%) yn llai o wasanaethau a 697 (-5%) yn llai o leoedd.
- Mae’r lleihad yn nifer y gwarchodwyr plant yn duedd sydd wedi’i gweld dros y blynyddoedd diwethaf ac sy’n destun cryn bryder a diddordeb ymysg pawb sy’n ymwneud â chefnogi’r sector gofal plant a chwarae.
- Mae’r lleihad yn nifer y gwasanaethau a’r lleoedd gofal dydd sesiynol a’r tu allan i oriau ysgol yn cynnal y duedd tuag i lawr a nodwyd y flwyddyn ddiwethaf.
- Y radd fwyaf cyffredin a gofnodir yw Da (415), a Digonol (261) wedi hynny. Gwnaethom ddyfarnu gradd Rhagorol ar 98 achlysur, a gradd Gwael ar 48 achlysur.
- Codwyd 549 o bryderon yn 2022/23, yr oedd y mwyafrif ohonynt (385) yn ymwneud â lleoliadau gofal dydd llawn.
Wrth gyhoeddi ei hadroddiad blynyddol dywedodd Prif Arolygydd, Gillian Baranski:
"Nid peth hawdd fydd darllen am rai o'r pynciau yr ymdrinnir â nhw yn yr adroddiad hwn. Mae'n gyfnod anodd i'r sectorau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu, ond eto, mae ein harolygwyr yn gweld yn gyson fod y rhan fwyaf o wasanaethau yn darparu gofal da a diogel i'r rhai hynny sy'n eu defnyddio. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddathlu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud mewn gwasanaethau gofal ledled Cymru bob dydd, ac i roi gobaith i bobl hefyd.
Bu'n flwyddyn heriol arall, ac yn flwyddyn arall o ymrwymiad ac ymroddiad eithriadol gan bob un o'r rhai hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae. Maent yn haeddu ein gwerthfawrogiad a'n diolch. Braint yw bod yn Brif Arolygydd sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl ledled Cymru. Dim ond drwy waith caled a brwdfrydedd ein staff y gallwn wneud yr hyn a wnawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bob un ohonynt.
Gadewch i ni nodi a dathlu arferion da, a'u rhannu'n eang ac yn fynych. Mae hyrwyddo diwylliant ac arferion cadarnhaol yn rhywbeth y byddwn yn gwneud llawer mwy ohono yn ystod y flwyddyn i ddod, a gallwch ddisgwyl darllen mwy am hyn yn adroddiad y flwyddyn nesaf."
Dywedodd Claire Protheroe, Pennaeth Contractau a Phrosiectau PACEY;
" Mae PACEY Cymru yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad blynyddol AGC. Mae'r dirywiad yn nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru yn parhau i achosi pryder. Mae gwaith sy'n gysylltiedig â'r Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant yng Nghymru yn mynd rhagddo, fodd bynnag mae PACEY Cymru yn credu bod hwn yn gyfnod tyngedfennol i’r sector gwarchod plant yng Nghymru ac mae wedi cyrraedd pwynt argyfyngus lle bydd adferiad yn rhy hwyr os na chymerir camau cyflym a phendant."
Am unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk