PACEY Connect (Cymru)/Cyswllt yng Nghymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  Read this in Welsh here.

We provide flexible, tailored support for local authorities and childcare professionals in Wales so children benefit from quality childcare.

PACEY Connect (Cymru) is a package of services designed to help Welsh local authorities support childminders in their area, as well as those working in childcare across Wales.

The packages focus on three areas:

  • New childminding, childcare and early years provision: for applicant and newly registered childminders, and those looking to work or who are newly employed in the childcare and early years sector.
  • Support for improving quality: for childminders and those working in childcare and early years around quality improvement and continuous professional development (CPD) to promote professionalism
  • Sustainable childminding and childcare and early years provision: to support business development and sustainability.

How do I buy PACEY Connect (Cymru) services?

Local authorities or other statutory agencies

Local authorities have a duty to ensure that the children in their local areas have the best possible standards of care. People working for local authorities in Wales or statutory agencies can buy services on behalf of childcare and early years professionals in their area.

Our services are flexible, so authorities can choose to:

  • Buy a range of services as part of a contract with PACEY Cymru for a year or more
  • Purchase specific services at any time of the year based on immediate needs

Childcare and early years professionals

Childcare and early years professionals can choose to directly purchase our services. They can do this as individuals or as a group, for example a local peer support group.

How are services delivered?

A team of PACEY trainers will deliver the training. PACEY trainers and Associates are experienced in home-based childcare and in supporting adult learners.

How much do the packages cost?

Our packages of support are excellent value for money for both local authority commissioners and childcare and early years professionals.

Fees vary and include training development time, management fees and travel costs.

Venue costs are extra as many local authorities can provide their own at a reduced rate or for free. If this is not possible, we can arrange venues and these costs will be added to the fees.

Find out more

For further information on PACEY Connect services in Wales call 02920 351407 or email paceycymru@pacey.org.uk

 

Rydym yn darparu cefnogaeth hyblyg sydd wedi'i theilwra i awdurdodau lleol a gweithwyr gofal plant proffesiynol yng Nghymru fel bod plant yn elwa o ofal plant o safon.

Pecyn o wasanaethau yw PACEY Cyswllt (Cymru) sydd wedi'i gynllunio i helpu awdurdodau lleol Cymru i gefnogi gwarchodwyr plant yn eu hardal, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal plant ledled Cymru.

Mae'r pecynnau'n canolbwyntio ar dri maes:

  • Darpariaeth newydd ar gyfer gwarchod plant, gofal plant a blynyddoedd cynnar: ar gyfer darpar warchodwyr plant a gwarchodwyr plant sydd newydd gofrestru, a'r rheini sy'n edrych i weithio neu sydd newydd eu cyflogi yn y sector gofal plant a blynyddoedd cynnar.
  • Cefnogaeth i wella ansawdd: ar gyfer gwarchodwyr plant a'r rheini sy'n gweithio ym maes gofal plant a blynyddoedd cynnar o amgylch gwella ansawdd a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) i hyrwyddo proffesiynoldeb
  • Darpariaeth gwarchod plant a gofal plant a blynyddoedd cynnar cynaliadwy: cefnogi datblygiad busnes a chynaliadwyedd.

Sut mae prynu gwasanaethau PACEY Cyswllt (Cymru)?

Awdurdodau lleol neu asiantaethau statudol eraill

Mae'n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gan y plant yn eu hardaloedd lleol y safonau gofal gorau posib. Gall pobl sy'n gweithio dros awdurdodau lleol yng Nghymru neu asiantaethau statudol brynu gwasanaethau ar ran gweithwyr gofal plant proffesiynol a blynyddoedd cynnar yn eu hardal.

Mae ein gwasanaethau'n hyblyg, felly gall awdurdodau ddewis:

  • Prynu ystod o wasanaethau fel rhan o gontract gyda PACEY Cymru am flwyddyn neu fwy
  • Prynu gwasanaethau penodol ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn seiliedig ar anghenion uniongyrchol

Gweithwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar

Gall gweithwyr proffesiynol gofal plant a blynyddoedd cynnar ddewis prynu ein gwasanaethau yn uniongyrchol. Gallant wneud hyn fel unigolion neu fel grŵp, er enghraifft grŵp cymorth cymheiriaid lleol.

Sut mae gwasanaethau'n cael eu darparu?

Bydd tîm o hyfforddwyr PACEY yn cyflwyno'r hyfforddiant. Mae hyfforddwyr a Chysylltiadau PACEY yn brofiadol mewn gofal plant yn y cartref ac o ran cefnogi dysgwyr sy'n oedolion.

Faint mae'r pecynnau'n eu costio?

Mae ein pecynnau cymorth yn werth rhagorol am arian i gomisiynwyr awdurdodau lleol ac i weithwyr gofal plant a blynyddoedd cynnar proffesiynol.

Mae'r ffioedd yn amrywio ac yn cynnwys amser datblygu hyfforddiant, ffioedd rheoli a chostau teithio.

Mae costau lleoliad yn ychwanegol gan fod llawer o awdurdodau lleol yn gallu darparu eu rhai eu hunain ar gyfradd is neu am ddim. Os nad yw hyn yn bosib, gallwn drefnu lleoliadau a bydd y costau hyn yn cael eu hychwanegu at y ffioedd.

Dysgu rhagor

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau PACEY Cyswllt yng Nghymru, ffoniwch 02920 351407 neu e-bostiwch paceycymru@pacey.org.uk

 

 

You might also like