Inspections in Wales/ Arolygiadau yng Nghymru
Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here.
Childminders, day care and play services in Wales are registered and inspected by Care Inspectorate Wales (CIW). These inspections are currently unannounced for childminders. CIW will normally telephone the service the week before they intend to inspect, to check the childminder’s availability and their operating times.
Unless concerns are raised about a setting, CIW inspect full daycare services at least once in every two years; and other childcare services - childminders, sessional day care, open access play, crèches and out of school care - at least once in every three years.
CIW inspectors will spend time at the service:
- speaking to children, parents and staff;
- observing children and staff interaction with children;
- looking at child records and other information to check they are regularly kept up to date such as: child protection polices, statement of purpose, first aid certificates, fire risk assessments and DBS certificates;
- considering evidence about children’s development and well-being; and
- discussing feedback with the relevant person/s
Inspections have a strong focus on child development and well-being outcomes. When inspectors visit, they will consider four themes:
- Wellbeing
- Care and development
- Leadership and management
- Environment.
The full inspection framework is available on CIW's website. Childcare settings in Wales providing funded education for 3 and 4-year-olds and that have previously received inspections from both CIW and Estyn will in future have joint inspections. CIW will inspect on the above themes, and Estyn on the additional themes of Learning and Teaching and Assessment.
The CIW inspector will send their written report to the setting within 28 days. The setting then has 14 days to check the accuracy of the report, which may be amended if the inspector agrees there are factual errors. The final report will also be made available to parents.
Ratings in Wales
CIW have published inspection reports for childminders in Wales since autumn 2018.
All CIW reports of full inspections of childcare and play services will include a rating for each of the four themes considered during the inspection. This means a rating of Excellent; Good; Adequate; or Poor will be published in respect of the themes of Wellbeing; Care and Development; Environment; and Leadership and Management.
CIW have published further information including the full inspection framework and a guide to inspection on their website.
For news of any changes and for up to date information relating to CIW, please sign up to the CIW Newsletter here CIW latest news.
Regular updates and information are also available through the PACEY Cymru Facebook page and member e-newsletters. PACEY Cymru will also be producing associated guidance around ratings over coming months.
Arolygiadau yng Nghymru
Mae gwarchodwyr plant, gwasanaethau gofal dydd a gwasanaethau chwarae yng Nghymru wedi’u cofrestru ac yn cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ar hyn o bryd mae'r arolygiadau hyn yn ddirybudd yn achos gwarchodwyr plant. Bydd AGC fel arfer yn ffonio'r gwasanaeth yr wythnos cyn y bydd yn bwriadu cynnal yr arolwg, er mwyn sicrhau bod y gwarchodwr plant ar gael ac i ganfod beth yw ei amseroedd gweithredu.
Oni bai fod pryderon yn cael eu lleisio ynglŷn â lleoliad, mae AGC yn arolygu gwasanaethau gofal dydd llawn o leiaf unwaith bob dwy flynedd; a gwasanaethau gofal plant eraill - gwarchodwyr plant, gofal dydd sesiynol, chwarae mynediad agored, crèches a gofal y tu allan i oriau ysgol - o leiaf unwaith bob tair blynedd.
Bydd arolygwyr AGC yn treulio amser yn y gwasanaeth yn :
- siarad â phlant, rhieni a staff;
- arsylwi plant a rhyngweithio'r staff â'r plant;
- edrych ar gofnodion plant a gwybodaeth arall i sicrhau eu bod yn cael eu diweddaru'n rheolaidd megis: polisïau amddiffyn plant, datganiad o ddiben, tystysgrifau cymorth cyntaf, asesiadau risg tân a thystysgrifau'r DBS;
- ystyried tystiolaeth ynglŷn â datblygiad a lles plant; a
- trafod adborth gyda'r person/au perthnasol
Mae’r arolygiadau'n rhoi pwyslais cryf ar ddatblygiad plant a chanlyniadau lles. Yn ystod ymweliad arolygwyr, byddant yn ystyried pedair thema:
- Lles
- Gofal a datblygiad
- Arweinyddiaeth a rheolaeth
- Amgylchedd
Mae’r fframwaith arolygu llawn ar gael ar wefan AGC. Yn y dyfodol, bydd lleoliadau gofal plant yng Nghymru sy'n darparu addysg a ariennir i blant 3 a 4 oed ac sydd wedi cael eu harolygu yn y gorffennol gan AGC ac Estyn yn cael eu harolygu ar y cyd. Bydd AGC yn arolygu yn ôl y themâu uchod, ac Estyn yn ôl themâu ychwanegol sef Dysgu ac Addysgu ac Asesu.
Mae rhagor o wybodaeth am yr arolygiadau ar y cyd hyn (os ydynt yn berthnasol i'ch lleoliad) ar gael yn: Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant - sicrhau ansawdd a dysgu. Bydd y fframwaith arolygu ar y cyd newydd yn symleiddio'r ffordd y bydd AGC ac Estyn yn arolygu'r gwasanaethau hyn.
Bydd arolygydd AGC yn anfon ei adroddiad ysgrifenedig i'r lleoliad o fewn 28 diwrnod. Yna bydd gan y lleoliad 14 diwrnod i wirio cywirdeb yr adroddiad, a gellir ei ddiwygio os yw'r arolygydd yn cytuno bod gwallau ffeithiol ynddo. Bydd yr adroddiad terfynol ar gael hefyd i'r rhieni.
Graddau yng Nghymru
Mae AGC wedi cyhoeddi adroddiadau arolygu ar gyfer gwarchodwyr plant yng Nghymru ers hydref 2018.
Bydd pob un o hadolygiadau llawn AGC o wasanaethau gofal plant a chwarae yn cynnwys gradd ar gyfer pob un o'r pedair thema a gaiff eu hystyried yn ystod yr arolygiad. Mae hyn yn golygu y caiff gradd Rhagorol; Da; Digonol; neu Wael ei chyhoeddi mewn perthynas â themâu Llesiant; Gofal a Datblygiad; Yr amgylchedd; ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae AGC wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth gan gynnwys y fframwaith arolygu llawn a chanllaw i'r arolygiad ar eu gwefan.
I gael newyddion am unrhyw newidiadau ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am AGC, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr AGC yma newyddion diweddaraf AGC.
Mae gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd hefyd ar gael ar dudalen Facebook PACEY Cymru ac e-gylchlythyrau i aelodau. Bydd PACEY Cymru hefyd yn cynhyrchu canllawiau cysylltiedig ynghylch graddau dros y misoedd nesaf.