Interview: Resources, materials and experiences / Cyfweliad Adnoddau, deunyddiau a phrofiadau
Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here.
An interview with Amanda, a childminder in Flintshire, about the resources, materials and experiences on offer in her setting.
Amanda has already focused a lot on her environment. She has recently been auditing the range of resources, materials and experiences in her setting. She reflected on her observations and thoughts to Elizabeth Jarman.
How do you use open-ended and loose parts resources?
90% of my resources are open ended and predominantly loose parts these are items that can be constructed, manipulated and transformed through self-directed play. Recycling and sustainability play a huge role in my setting so many of my materials are authentic, recycled, upcycled, donated or purchased from charity shops. Hopefully instilling a sense of responsibility towards the environment in the children.

How do you support a choice for children?
Rather than adult directed activities with a specific outcome I work on providing an environment rich in opportunities for children to develop new interests and also to build on interests they currently have. I provide both invitations to play, which are a set of resources set out with a subliminal message for the children to come and explore and be curious, and provocations which are resources based on a child’s current interest. These two are interchangeable as what might be a provocation for one child may be an invitation for another.
Resources are set out so they can be self-selected and a range of small and large loose parts are available. One barrier that makes this difficult is the range of age groups that I usually have in my setting. My youngest are under eighteen months, which of course means that some resources can’t be freely available. A continuous risk assessment is undertaken to ensure that resources are suitable and appropriate.

I like to give children freedom of movement, so the only time we really have chairs in use is at mealtimes. At other times children are free to access surfaces and activities as and when they want. I like to promote curiosity, discovery and exploration and to encourage the children to be really hands on learners.
How do you reflect on your practice?
There is always room for improvement but on the whole I feel that my setting offers a wealth of open ended resources. I often challenge my own thinking and if I set something out I question who am I doing it for. Many moons ago I would have said that I set up activities with a fixed end goal and would heavily direct the children’s play. Through academic study and experience I would now definitely say my setting is a child led one. Children are allowed to unfold in their development naturally and I see my role as a facilitator in supplying the correct type of resources to allow that to happen.
How do you support sensory play?
My current cohort of children are very sensory seeking and particularly love paint. Obviously as I work from my lounge and dining room it can be difficult to offer totally free painting opportunities within the house. Our outdoor space is perfect for this. I do not like the children having to stop and put on aprons before getting totally involved so we tend to use old shirts and t shirts which can be thrown in the washing machine at the end of the day.
Paint will be out in the garden daily. Different forms and colours, watercolours, powder paint, ready mixed paint, watered down paint in squirty bottles or old handwash bottles. I offer different areas that can be painted on and on different levels. For example, I salvaged the Perspex windows from our old play-house and we have these standing upright or laying down. This week we had umbrellas in the tree so the children had to reach high using different parts of their body. We use cardboard either hanging on the fence or on the grass. We add in different things for an added sensory experience. Herbs and spices and soaked chia seeds are all favourites and change the consistency and the feel of the paint. Most importantly the children are free to use the materials in any way they wish (obviously unless it puts someone at risk).

How did children engage in these experiences?
The children were totally engaged. They have the ability to self-select extra resources to add into their play and on this day they added water spray bottles. They are able to fill these themselves and I will often see the slightly older children helping out the younger ones who haven’t quite worked out what to do yet, so scaffolding their learning. They chose stones to add in to paint and then found leaves which they chose to paint over and used them as stencils. A three-year-old in my care wanted purple chia seeds which we didn’t have so he experimented with blue and red to achieve a purple colour.
Since the introduction of mostly open-ended resources and loose parts the play is more often than not sustained. It will very often go in a different direction than I anticipate which is fantastic as it highlights their imagination and different way in which their minds work.
How do you extend learning experiences?
Lots of transforming schematic play was observed during this particular session so as I would normally do, I will continue to add in additional resources for the children to experience changes and alterations. For example a potion station, food colouring mixtures, herbs and spices to add, pestle and mortar.
We have also added in sun paper which has fascinated all of us. The transformation from a sheet of single coloured paper to seeing the shapes made when we leave it in the sun is fantastic.
Just this morning we had our paint out in a cardboard eggbox. The little one wanted to know what would happen if he put the eggbox into water. We discussed the possibilities and then he went ahead and submerged it and saw exactly what happened. Of course, it ended up as pulp which he has flattened out and we have made a plan to leave it to dry out and see what happens.

Reflect!
Think about what you have read in the inspiring practice outlined above. Take time to reflect on your own practice. Do you have the balance of materials right in your setting? Think particularly about the amount of sensory, authentic, natural and open-ended materials on offer.
- Consider the way you set out invitations to play as noted by Amanda above. How do you encourage curiosity?
- How do you balance risk? When auditing the resources on offer in your setting consider the risk benefits of ‘non-standard’ materials.
- Does your resource offer change according to the children attending? What could you add to your offer to make the resources really interesting to individuals?
- How could a deeper knowledge of your children’s schemas influence the range of resources, materials and experiences available in your setting?
Cyfweliad gydag Amanda, gwarchodwr plant yn Sir y Fflint, am yr adnoddau, deunyddiau a phrofiadau sydd ar gael yn ei lleoliad.
Mae Amanda eisoes wedi canolbwyntio llawer ar ei hamgylchedd. Mae hi wedi bod yn archwilio’r ystod o adnoddau, deunyddiau a phrofiadau yn ei lleoliad yn ddiweddar. Myfyriodd ar ei harsylwadau a'i meddyliau i Elizabeth Jarman.
Sut ydych chi'n defnyddio adnoddau penagored a darnau rhydd?
Mae 90% o fy adnoddau yn benagored ac yn ddarnau rhydd yn bennaf. Mae'r rhain yn eitemau y gellir eu hadeiladu, eu trin a'u trawsnewid drwy chwarae hunangyfeiriedig. Mae ailgylchu a chynaliadwyedd yn chwarae rhan enfawr yn fy lleoliad, felly mae llawer o'm deunyddiau yn ddilys, wedi'u hailgylchu, eu huwchgylchu, eu rhoi neu eu prynu o siopau elusennol. Gobeithio y bydd y plant yn cael ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd.
Sut ydych chi'n cefnogi dewis i blant?
Yn hytrach na gweithgareddau a gyfarwyddir gan oedolion gyda chanlyniad penodol rwy’n gweithio ar ddarparu amgylchedd sy’n gyfoethog o ran cyfleoedd i blant ddatblygu diddordebau newydd a hefyd adeiladu ar y diddordebau sydd ganddynt ar hyn o bryd. Rwy’n darparu gwahoddiadau i chwarae, sef set o adnoddau sydd wedi’u gosod allan gyda neges isganfyddol i’r plant ddod i archwilio a bod yn chwilfrydig, a phryfociadau sy’n adnoddau sy’n seiliedig ar ddiddordeb presennol plentyn. Mae'r ddau yn gyfnewidiol oherwydd gall yr hyn a allai fod yn bryfociad i un plentyn fod yn wahoddiad i blentyn arall.
Mae adnoddau wedi'u gosod allan fel y gallant fod yn hunan-ddewis ac mae ystod o ddarnau bach a mawr rhydd ar gael. Un rhwystr sy’n gwneud hyn yn anodd yw’r ystod o grwpiau oedran sydd gen i yn fy lleoliad fel arfer. Mae fy mhlant ieuengaf o dan ddeunaw mis, sydd wrth gwrs yn golygu na all rhai adnoddau fod ar gael yn rhydd. Cynhelir asesiad risg parhaus i sicrhau bod adnoddau'n addas ac yn briodol.
Rwy'n hoffi rhoi rhyddid i symud i blant, felly yr unig amser y mae gennym gadeiriau mewn gwirionedd yw amser bwyd. Ar adegau eraill mae plant yn rhydd i fynd at arwynebau a gweithgareddau yn ôl eu dymuniad. Rwy'n hoffi hyrwyddo chwilfrydedd, darganfod ac archwilio ac annog y plant i fod yn ddysgwyr ymarferol.
Sut ydych chi'n myfyrio ar eich ymarfer?
Mae lle i wella bob amser ond ar y cyfan rwy’n credu bod fy lleoliad yn cynnig cyfoeth o adnoddau penagored. Rwy'n aml yn herio fy meddwl fy hun ac os byddaf yn gosod rhywbeth allan rwy'n cwestiynu am bwy ydw i'n ei wneud. Amser maith yn ôl byddwn yn dweud fy mod yn arfer sefydlu gweithgareddau gyda nod sefydlog a byddwn yn cyfarwyddo chwarae'r plant yn drwm. Drwy astudiaeth academaidd a phrofiad byddwn nawr yn dweud yn bendant bod fy lleoliad yn cael ei arwain gan y plentyn. Mae plant yn gallu datblygu’n naturiol ac rwy’n gweld fy rôl fel hwylusydd wrth gyflenwi’r math cywir o adnoddau i ganiatáu i hynny ddigwydd.
Sut ydych chi'n cefnogi chwarae synhwyraidd?
Mae fy ngharfan bresennol o blant yn chwilio am synhwyrau yn fawr ac yn dwlu ar baent yn arbennig. Yn amlwg gan fy mod yn gweithio o fy lolfa ac ystafell fwyta gall fod yn anodd cynnig cyfleoedd peintio hollol rydd o fewn y tŷ. Mae ein lle awyr agored yn berffaith ar gyfer hyn. Dydw i ddim yn hoffi bod y plant yn gorfod stopio a gwisgo ffedogau cyn cymryd rhan yn llwyr felly rydym yn tueddu i ddefnyddio hen grysau a chrysau-t y gellir eu taflu yn y peiriant golchi ar ddiwedd y dydd.
Bydd paent allan yn yr ardd yn ddyddiol. Gwahanol ffurfiau a lliwiau, dyfrlliwiau, paent powdr, paent parod wedi'i gymysgu, paent wedi'i lastwreiddio mewn poteli chwistrellu neu hen boteli sebon golchi dwylo. Rwy'n cynnig ardaloedd gwahanol y gellir eu paentio ar ac ar lefelau gwahanol. Er enghraifft, achubais y ffenestri Persbecs o'n hen dŷ chwarae ac mae gennym ni'r rhain yn sefyll yn unionsyth neu'n gorwedd. Wythnos yma roedd gennym ymbarelau yn y goeden felly roedd yn rhaid i’r plant ymestyn yn uchel gan ddefnyddio gwahanol rannau o’u corff. Rydym yn defnyddio cardbord naill ai'n hongian ar y ffens neu ar y glaswellt. Rydym yn ychwanegu gwahanol bethau ar gyfer profiad synhwyraidd ychwanegol. Mae perlysiau a sbeisys a hadau chia wedi'u mwydo i gyd yn ffefrynnau ac yn newid dwysedd a theimlad y paent. Yn bwysicaf oll mae'r plant yn rhydd i ddefnyddio'r deunyddiau mewn unrhyw ffordd y dymunant (yn amlwg oni bai ei fod yn rhoi rhywun mewn perygl).
Sut gwnaeth y plant ymgysylltu â’r profiadau hyn?
Roedd y plant wedi ymgysylltu'n llwyr. Mae ganddynt y gallu i hunanddewis adnoddau ychwanegol i'w hychwanegu at eu chwarae ac ar y diwrnod hwn gwnaethant ychwanegu poteli chwistrellu dŵr. Maen nhw’n gallu llenwi’r rhain eu hunain a byddaf yn aml yn gweld y plant ychydig yn hŷn yn helpu’r rhai iau nad ydyn nhw wedi gweithio allan beth i’w wneud eto, yn sgaffaldio eu dysgu. Gwnaethant ddewis gerrig i'w hychwanegu at baent ac yna daethant o hyd i ddail y gwnaethant ddewis eu paentio drostynt a'u defnyddio fel stensiliau. Roedd plentyn tair oed yn fy ngofal eisiau hadau chia porffor nad oedd gennym ni felly arbrofodd gyda glas a choch i gael lliw porffor.
Ers cyflwyno adnoddau penagored a darnau rhydd yn bennaf mae'r chwarae yn amlach na pheidio yn barhaus. Bydd yn aml iawn yn mynd i gyfeiriad gwahanol na’r disgwyl sy’n wych gan ei fod yn amlygu eu dychymyg a’r ffordd wahanol y mae eu meddyliau yn gweithio.
Sut ydych chi'n ymestyn profiadau dysgu?
Gwelwyd llawer o chwarae sgematig trawsnewidiol yn ystod y sesiwn benodol hon felly fel y byddwn yn ei wneud fel arfer, byddaf yn parhau i ychwanegu adnoddau ychwanegol i'r plant gael profiad o newidiadau ac addasiadau. Er enghraifft, gorsaf ddiodydd hud, cymysgeddau lliwio bwyd, perlysiau a sbeisys i'w hychwanegu, pestl a morter.
Rydym hefyd wedi ychwanegu papur haul sydd wedi ein swyno i gyd. Mae'r trawsnewidiad o ddalen o bapur un lliw i weld y siapiau a wneir pan fyddwn yn ei adael yn yr haul yn wych.
Dim ond y bore ‘ma cawsom ein paent allan mewn bocs wyau cardbord. Roedd un plentyn bach eisiau gwybod beth fyddai'n digwydd pe bai'n rhoi'r blwch wyau mewn dŵr. Gwnaethom drafod y posibiliadau ac yna aeth yn ei flaen a'i foddi a gweld yn union beth ddigwyddodd. Wrth gwrs, daeth yn fwydion y mae wedi'u gwastatáu ac rydym wedi gwneud cynllun i'w adael i sychu a gweld beth sy'n digwydd.
Myfyriwch!
Meddyliwch am yr hyn rydych wedi'i ddarllen yn yr arfer ysbrydoledig a amlinellwyd uchod. Cymerwch amser i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun. A yw cydbwysedd y defnyddiau yn gywir yn eich lleoliad? Meddyliwch yn arbennig am faint o ddeunyddiau synhwyraidd, dilys, naturiol a phenagored sydd ar gael.
- Ystyriwch y ffordd rydych wedi gosod gwahoddiadau i chwarae fel y nodwyd gan Amanda uchod. Sut ydych chi'n annog chwilfrydedd?
- Sut ydych chi'n cydbwyso risg? Wrth archwilio’r adnoddau sydd ar gael yn eich lleoliad, ystyriwch fanteision risg deunyddiau ‘ansafonol’.
- Ydy eich cynnig adnoddau yn newid yn ôl y plant sy'n mynychu? Beth allech chi ei ychwanegu at eich cynnig i wneud yr adnoddau yn ddiddorol iawn i unigolion?
- Sut gallai gwybodaeth ddyfnach o sgemâu eich plant ddylanwadu ar yr ystod o adnoddau, deunyddiau a phrofiadau sydd ar gael yn eich lleoliad?