Sensory materials and experiences/ Deunyddiau a phrofiadau synhwyraidd
Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here
The ideas and inspiration below features the practice and work of members of the project team.
For more information to help you explore and reflect further see our sections on resources, materials and experiences, and on the role of the adult.
Embracing the elements
Alison Sussex explained that she supports sensory play for the children in her care through use of the outdoor environment. 'Exploring natural resources, like puddles, can be one of the best kinds of water play. Allowing uninterrupted, unhurried time makes all the difference and helps children to really explore. An adult being involved in the play, as an active play partner, is also a great ingredient. Wearing the right clothes also helps!'
Water can also be used to support sensory play on a smaller scale within a setting as shown in Amanda Calloway's setting below.
Incidental sensory experiences
The children in Amanda’s care benefit every day from access to the outdoors and lots of incidental learning experiences. She said, 'I don’t work with a huge amount of planning but instead make the most of the way in which our day naturally unfolds. We’ve had some extreme weather at times, so we’ve spent time snuggled undercover listening to thunder, being totally amazed at the sounds of rain on our deck roof and working together to build a creation to show us how hard the wind was blowing.'
Natural sensory materials
Many home-based settings offer sand play to children. Think about different ways to present sand. These examples make use of circular metal bowls which are just big enough for a little one to crawl into, to feel contained in and explore the space and resources alone. The same bowl also offers a space for a couple of children to access the sand, presented here with stamps and other resources that canbe found around the home. Changing the presentation of the resource can alter the children’s response immediately and inspire sensory play and exploration.
Sensory reluctance
Deb Bedaida works with a child who doesn’t like touching anything ‘messy’. She explained 'He only eats what ‘feels nice’, he doesn’t like to touch clay or sloppy things, like banana.'
Deb created an inviting space in the garden and added interesting fruits on a large wooden chopping board to cut up and explore, or just eat. The child was very interested in the space and what we had. He picked up an orange slice and immediately dropped it because of the texture, however, perhaps encouraged by watching the others or being drawn to the space, Deb noticed that 'He repeated this behaviour until eventually he held it and placed it to his lips and sucked. The evidence of pleasure from the taste was extraordinary. He now has tried tomatoes and strawberries! This experience has increased his vocabulary. He can identify tomatoes, oranges, strawberries and cucumber now. Whereas before he only knew banana, apple and grapes.'
Sensory enhancements
Amanda has enhanced sensory play in her setting by adding lavender seeds, rose petals and coffee grounds to playdough. This provides a completely different sensory experience with lots of lovely smells!
Claire Chapman has also been adding ‘smells’ to her children’s experiences and said 'We’ve been making perfume in old spice jars using herbs and flowers from the garden.'
Simple mixing activities like this can be really enhanced by considering the sense of smell. Adding petals, herbs or spices completely changes the experience and can trigger new vocabulary.
Offering flowers that were near the end of their bloom was a very popular multi-sensory experience for the children in Amanda’s care. They enjoyed creating arrangements using oasis grass and pots.
As well as flowers, try growing mint, basil, rosemary or other herbs and spices in pots or in your garden so you have a constant supply to enhance the opportunities on offer in your setting.
The secret mud garden
Sarah Harper has been developing a semi-private part of her garden over time. She describes it as her ‘secret mud garden.’ She has used old kitchen appliances in the space which is popular with all of the children in her care and supports open-ended, sustained sensory play.
Reflect!
- Do you, and your children have the ‘right’ clothes to be able to join in with sensory play in the outdoors? How do you share the importance of this with families?
- Do you relax into the sensory play or experiences around you? Are you ‘in the moment’, or sometimes too busy thinking about what you need to do next? Notice those authentic incidental learning experiences as they unfold.
- Explore smaller scales of sensory play with unconventional containers. What could you upcycle perhaps?
- Consider the way that the context might affect the way that children join in with a sensory experience.
Mae'r syniadau a'r ysbrydoliaeth isod yn cynnwys ymarfer a gwaith aelodau o dîm y prosiect.
Am ragor o wybodaeth i'ch helpu chi i archwilio a myfyrio ymhellach gweler ein hadrannau ar adnoddau, deunyddiau a phrofiadau, ac ar rôl yr oedolyn.
Cofleidio'r elfennau
Esboniodd Alison Sussex ei bod yn cefnogi chwarae synhwyraidd i'r plant yn ei gofal drwy ddefnyddio'r amgylchedd awyr agored. 'Gall archwilio adnoddau naturiol, megis pyllau, fod yn un o'r mathau gorau o chwarae dŵr. Mae caniatáu amser di-dor, di-frys yn gwneud byd o wahaniaeth ac yn helpu plant i archwilio. Mae oedolyn sy'n cymryd rhan yn y chwarae, fel partner chwarae gweithredol, hefyd yn gynhwysyn gwych. Mae gwisgo'r dillad iawn hefyd yn helpu!’
Gellir defnyddio dŵr hefyd i gefnogi chwarae synhwyraidd ar raddfa lai mewn lleoliad fel y dangosir yn lleoliad Amanda Calloway isod.
Profiadau synhwyraidd achlysurol
Mae'r plant sydd yng ngofal Amanda yn elwa bob dydd o fynediad at yr awyr agored a llawer o brofiadau dysgu achlysurol. Dywedodd, ‘Nid ydw i’n gweithio gyda llawer iawn o gynllunio ond yn lle hynny, rwy’n gwneud y gorau o'r ffordd y mae ein diwrnod yn datblygu'n naturiol. Rydyn ni wedi cael tywydd eithafol ar brydiau, felly rydyn ni wedi treulio amser yn swatio dan do yn gwrando ar daranau, yn rhyfeddu’n llwyr at synau glaw ar ein to dec ac yn gweithio gyda’n gilydd i adeiladu offeryn i ddangos i ni pa mor galed roedd y gwynt yn chwythu.’
Deunyddiau synhwyraidd naturiol
Mae llawer o leoliadau yn y cartref yn cynnig chwarae tywod i blant. Meddyliwch am wahanol ffyrdd o gyflwyno tywod. Mae'r enghreifftiau hyn yn defnyddio bowlenni metel crwn sydd yn ddigon mawr i un plentyn bach gropian iddynt, i deimlo eu bod wedi'u cynnwys yn y lle a'r adnoddau yn unig ac archwilio'r lle hwnnw. Mae'r un bowlen hefyd yn cynnig lle i gwpl o blant gael mynediad i'r tywod, a gyflwynir yma gyda stampiau ac adnoddau eraill y gellir eu canfod o amgylch y cartref. Gall newid cyflwyniad yr adnodd newid ymateb y plant ar unwaith ac ysbrydoli chwarae ac archwilio synhwyraidd.
Amharodrwydd synhwyraidd
Mae Deb Bedaida yn gweithio gyda phlentyn nad yw’n hoffi cyffwrdd ag unrhyw beth ‘blêr’. Esboniodd 'Dim ond yr hyn sy'n ’teimlo'n neis’ y mae'n ei fwyta, nid yw'n hoffi cyffwrdd â chlai neu bethau slwtshlyd, fel bananas.’
Creodd Deb le deniadol yn yr ardd ac ychwanegodd ffrwythau diddorol ar fwrdd torri mawr pren i dorri i fyny ac archwilio, neu fwyta yn unig. Roedd gan y plentyn ddiddordeb mawr yn y lle a'r hyn a oedd gennym. Cododd dafell oren a'i ollwng ar unwaith oherwydd y gwead, fodd bynnag, efallai wedi'i annog drwy wylio'r lleill neu gael ei dynnu i'r lle, sylwodd Deb 'Ailadroddodd yr ymddygiad hwn nes iddo ei ddal a'i osod wrth ei wefusau yn y pen draw a sugno. Roedd y dystiolaeth o bleser o'r blas yn rhyfeddol. Mae bellach wedi rhoi cynnig ar domatos a mefus! Mae'r profiad hwn wedi cynyddu ei eirfa. Mae'n gallu adnabod tomatos, orennau, mefus a chiwcymbr nawr. Tra o'r blaen dim ond banana, afal a grawnwin yr oedd yn eu hadnabod.’
Gwelliannau synhwyraidd
Mae Amanda wedi gwella chwarae synhwyraidd yn ei lleoliad drwy ychwanegu hadau lafant, petalau rhosyn a gwaddod coffi at does chwarae. Mae hyn yn darparu profiad synhwyraidd hollol wahanol gyda llawer o arogleuon hyfryd!
Mae Claire Chapman hefyd wedi bod yn ychwanegu ‘arogleuon’ at brofiadau ei phlant a dywedodd 'Rydyn ni wedi bod yn gwneud persawr mewn hen jariau sbeis gan ddefnyddio perlysiau a blodau o'r ardd.’
Gellir gwella gweithgareddau cymysgu syml fel hyn yn wirioneddol drwy ystyried y synnwyr arogli. Mae ychwanegu petalau, perlysiau neu sbeisys yn newid y profiad yn llwyr a gall sbarduno geirfa newydd.
Roedd cynnig blodau a oedd bron i wywo yn brofiad amlsynhwyraidd poblogaidd iawn i'r plant dan ofal Amanda. Gwnaethant fwynhau creu trefniadau gan ddefnyddio Oasis, glaswellt a photiau.
Yn ogystal â blodau, rhowch gynnig ar dyfu mintys, basil, rhosmari neu berlysiau a sbeisys eraill mewn potiau neu yn eich gardd fel bod gennych gyflenwad cyson i wella'r cyfleoedd sydd ar gael yn eich lleoliad.
Yr ardd fwd gyfrinachol
Mae Sarah Harper wedi bod yn datblygu rhan lled-breifat o'i gardd dros amser. Mae hi’n ei disgrifio fel ei ‘gardd fwd gyfrinachol.’ Mae hi wedi defnyddio hen offer cegin yn y gofod sy'n boblogaidd gyda phob un o'r plant dan ei gofal ac yn cefnogi chwarae synhwyraidd penagored, parhaus.
Myfyriwch!
- Oes gennych chi, a'ch plant y dillad ‘iawn’ i allu ymuno â chwarae synhwyraidd yn yr awyr agored? Sut ydych chi'n rhannu pwysigrwydd hyn gyda theuluoedd?
- Ydych chi'n ymlacio i'r chwarae synhwyraidd neu'r profiadau o'ch cwmpas? Ydych chi ‘yn y foment’, neu weithiau’n rhy brysur yn meddwl am yr hyn sydd angen i chi ei wneud nesaf? Sylwch ar y profiadau dysgu achlysurol dilys hynny wrth iddynt ddatblygu.
- Archwiliwch raddfeydd llai o chwarae synhwyraidd gyda chynwysyddion anghonfensiynol. Beth allech chi ei uwchgylchu efallai?
- Ystyriwch y ffordd y gallai'r cyd-destun effeithio ar y ffordd y mae plant yn ymuno â phrofiad synhwyraidd.