Storage solutions/ Datrysiadau storio

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  Read this in Welsh here

The ideas and inspiration below features the practice and work of members of the project team.

For more information to help you explore and reflect further see our section on resources, materials and experiences.

Displaying resources

Alison Sussex stores open-ended resources in small baskets and then tidies them away into larger boxes so they are all hidden away at the weekend. When setting up for the day she displays them on shelves, rather than in a big toy box. 

Alison explains, 'I have observed children’s play and realised that less resources encourages more positive exploratory and investigative play. Open ended resources allow children to use objects very differently. For example, some children go straight to building towers with the CDs and tin cans, whereas others will fill the tins with smaller objects and use the CDs as lids for them.'

 

 

Amanda Calloway said 'Most of my resources could be put away at the weekend but honestly the time it would take to do it is really not worth it to me. Everything only tends to go away if I am on annual leave. My lounge has nothing childminding related in it at the end of each day so that is the family room to get away from my work, but the shelving units in my kitchen remain. What my family have said is that since I moved to more natural and authentic resources the things that are left out all the time are more visually pleasing than they every used to be. Most things are natural materials and natural colours and so are much nicer to look at.'

Deb Bedaida offers a small collection of front-facing books, supporting independence and choice. This unit offers just the right number for this a young child to manage. It’s easy to overwhelm children with too much choice.

Tracey Touhig said, 'I have a shelving unit that used to be a book-shelf. I use this to place various resources on. I try and put resources that can extend play. Natural resources are stored in tie string cloth bags. When they are out for play I place them either on a tray or in wicker baskets.'

Other spaces as storage

At the weekend Alison uses the alleyway at the side of her house to store larger resources. Alison has reviewed bulky items which were previously kept inside and moved them around. 'I moved my large play kitchen into the garden as it wasn’t easy to store inside my house. It is played with daily. I wanted something else indoors for the children to use as their role play kitchen, so I made a smaller scale oven/hob out of a toy box. The children love it and it’s easy to put away under the play food box at the end of the day.'

Amanda shared that she had the benefit of being able to use her garage for storage. 'I have shelves and a combination of baskets and see-through boxes so I can easily access a resource. I offer ‘new invitations’ based on the seasons and so will add new resources into our continuous provision or I can easily find something if needed to enhance our play during the day. It’s not pretty and it often needs sorting, but it works for the space I have available.'

Tracey said 'Organising my resources to be packed away especially at weekends has always been a struggle. I saw an advert for a custom-built storage system that fits under the stairs. It was very costly but changes my home from a looking like a nursery to our home. It is a touch click system so the older children can access it for their after-school activities. My outdoor resources after each day are stored in the playhouse. Its water-tight and surprisingly can store lots. I have 2 benches in which the smaller resources are stored.'

Garden space

Amanda also shared that 'Everything in the garden can be hidden away at the weekend so my garden looks like a family garden. Most of my loose parts are stored in moveable containers. That makes it easier for me to put age-appropriate ones out each day and to put them away at the weekend. A favourite idea of mine is to use wooden reels or crates to set up shelves and storage for the day. Non-permanent and easily put away when needed.'

Claire Chapman uses open baskets to store open-ended resources and sometimes laundry bags. She explained that when children in her care gather open ended resources from the park they are added to the garden in smaller collections to enhance the mud kitchen. 

 

Reflect!

  • How accessible are resources to children in your care? Could you put out a collection of particularly relevant materials each week to match their interests?   
  • Think about the way you display materials and resources. Presentation can make such a positive difference and can encourage curiosity and investigation. 
  • Audit the scale of resources available in your setting. Are there too many? Can your children manage them independently or would it benefit from scaling things back? What happens as a result? Do children play in a different way?
  • Consider different types of storage. Some things need to be available all of the time, some need to be handy for you to add during a session, but some items can be stored away as they might only be used occasionally. Does your storage reflect this?
  • Sometimes smaller resource collections made by the children are more meaningful and can trigger recall about positive shared experiences. How could you involve your children in building your natural resource collections?

 

Mae'r syniadau a'r ysbrydoliaeth isod yn cynnwys ymarfer a gwaith aelodau o dîm y prosiect.

Am ragor o wybodaeth i'ch helpu chi i archwilio a myfyrio ymhellach gweler ein hadran ar adnoddau, deunyddiau a phrofiadau.

Arddangos adnoddau

Mae Alison Sussex yn storio adnoddau penagored mewn basgedi bach ac yna'n eu tacluso i mewn i flychau mwy fel eu bod i gyd wedi'u cuddio i ffwrdd ar y penwythnos. Wrth sefydlu ar gyfer y diwrnod mae hi'n eu harddangos ar silffoedd, yn hytrach nag mewn blwch teganau mawr. 

Eglura Alison, 'Rwyf wedi arsylwi chwarae plant a sylweddoli bod llai o adnoddau yn annog chwarae archwiliadol ac ymchwiliol mwy cadarnhaol. Mae adnoddau penagored yn caniatáu i blant ddefnyddio gwrthrychau yn wahanol iawn. Er enghraifft, mae rhai plant yn mynd yn syth i adeiladu tyrau gyda'r CDs a'r caniau tun, ond bydd eraill yn llenwi'r tuniau â gwrthrychau llai ac yn defnyddio'r CDs fel caeadau ar eu cyfer.'

 

 

Dywedodd Amanda Calloway 'Gellid rhoi'r rhan fwyaf o'm hadnoddau i ffwrdd ar y penwythnos ond yn onest nid yw'r amser y byddai'n ei gymryd i'w wneud yn werth chweil i fi. Dim ond os ydw i ar wyliau blynyddol y mae popeth yn tueddu i fynd i ffwrdd. Nid oes gan fy lolfa unrhyw beth sy'n gysylltiedig â gwarchod plant ynddo ar ddiwedd pob diwrnod felly dyna'r ystafell deulu i ddianc o fy ngwaith, ond mae'r unedau silffoedd yn fy nghegin yn aros. Yr hyn y mae fy nheulu wedi'i ddweud yw, ers i fi symud i adnoddau mwy naturiol a dilys, mae'r pethau sy'n cael eu gadael allan drwy'r amser yn fwy pleserus yn weledol nag yr oeddent yn arfer bod. Mae'r rhan fwyaf o bethau'n ddeunyddiau naturiol a lliwiau naturiol ac felly mae'n llawer brafiach edrych arnyn nhw.’

Mae Deb Bedaida yn cynnig casgliad bach o lyfrau gyda’r cloriau’n weladwy, gan gefnogi annibyniaeth a dewis. Mae'r uned hon yn cynnig y nifer cywir i blentyn ifanc ei reoli. Mae'n hawdd gorlethu plant â gormod o ddewis.

Dywedodd Tracey Touhig, 'Mae gen i uned silffoedd a arferai fod yn silff lyfrau. Rwy'n defnyddio hwn i roi adnoddau amrywiol arno. Rwy'n ceisio rhoi adnoddau a all ymestyn chwarae. Mae adnoddau naturiol yn cael eu storio mewn bagiau brethyn llinyn clymu. Pan maen nhw allan i chwarae rydw i'n eu gosod naill ai ar hambwrdd neu mewn basgedi gwiail.’

Mannau eraill fel lle storio

Ar y penwythnos mae Alison yn defnyddio'r alai ar ochr ei thŷ i storio adnoddau mwy.  Mae Alison wedi adolygu eitemau swmpus a oedd gynt yn cael eu cadw y tu mewn a'u symud o gwmpas. 'Symudais fy nghegin chwarae fawr i'r ardd gan nad oedd yn hawdd ei storio y tu mewn i'm tŷ. Mae'n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol. Roeddwn i eisiau rhywbeth arall dan do i'r plant ei ddefnyddio fel eu cegin chwarae rôl, felly gwnes i ffwrn/hob ar raddfa lai allan o flwch teganau. Mae'r plant yn dwli arno ac mae'n hawdd eu rhoi o dan y blwch bwyd chwarae ar ddiwedd y dydd.‘

Rhannodd Amanda ei bod wedi cael y budd o allu defnyddio ei garej i'w storio. 'Mae gen i silffoedd a chyfuniad o fasgedi a blychau tryloyw er mwyn i mi allu cyrchu adnodd yn hawdd. Rwy’n cynnig ‘gwahoddiadau newydd’ yn seiliedig ar y tymhorau ac felly byddaf yn ychwanegu adnoddau newydd i’n darpariaeth barhaus neu gallaf ddod o hyd i rywbeth yn hawdd os oes angen i wella ein chwarae yn ystod y dydd. Nid yw'n bert ac yn aml mae angen ei ddidoli, ond mae'n gweithio i'r lle sydd ar gael gennyf.‘

Dywedodd Tracey 'Mae trefnu fy adnoddau i gael eu pacio i ffwrdd yn enwedig ar benwythnosau bob amser wedi bod yn anodd. Gwelais hysbyseb ar gyfer system storio bwrpasol sy'n ffitio o dan y grisiau. Roedd yn ddrud iawn ond mae'n newid fy nghartref o fod yn feithrinfa i'n cartref. Mae'n system clicio cyffwrdd fel y gall y plant hŷn gael mynediad iddo ar gyfer eu gweithgareddau ar ôl ysgol.  Mae fy adnoddau awyr agored ar ôl pob diwrnod yn cael eu storio yn y tŷ chwarae. Mae'n gwrthod dŵr ac yn rhyfeddol gall storio llawer. Mae gen i 2 fainc lle mae'r adnoddau llai yn cael eu storio.‘

Lle gardd

Rhannodd Amanda hefyd 'Gellir cuddio popeth yn yr ardd i ffwrdd ar y penwythnos felly mae fy ngardd yn edrych fel gardd deuluol. Mae'r rhan fwyaf o'm darnau rhydd yn cael eu storio mewn cynwysyddion symudol. Mae hynny'n ei gwneud hi'n haws i fi roi rhai sy'n briodol i'w hoedran allan bob dydd a'u rhoi i ffwrdd ar y penwythnos. Hoff syniad gen i yw defnyddio riliau neu gewyll pren i osod silffoedd a storfa ar gyfer y dydd. Nid yw’n barhaol ac mae’n hawdd ei roi i ffwrdd pan fo angen.’

Mae Claire Chapman yn defnyddio basgedi agored i storio adnoddau penagored ac weithiau bagiau golchi dillad. Esboniodd pan fydd plant yn ei gofal yn casglu adnoddau penagored o'r parc eu bod yn cael eu hychwanegu at yr ardd mewn casgliadau llai i wella'r gegin fwd. 

 

Myfyriwch!

  • Pa mor hygyrch yw adnoddau i blant yn eich gofal? A allech chi roi casgliad o ddeunyddiau arbennig o berthnasol allan bob wythnos i gyd-fynd â'u diddordebau?   
  • Meddyliwch am y ffordd rydych chi'n arddangos deunyddiau ac adnoddau. Gall cyflwyniad wneud gwahaniaeth mor gadarnhaol a gall annog chwilfrydedd ac ymchwilio. 
  • Archwiliwch raddfa'r adnoddau sydd ar gael yn eich lleoliad. Oes yna ormod? A all eich plant eu rheoli'n annibynnol neu a fyddai elwa o dynnu pethau yn ôl? Beth sy'n digwydd o ganlyniad? Ydy plant yn chwarae mewn ffordd wahanol?
  • Ystyriwch wahanol fathau o storio. Mae angen i rai pethau fod ar gael drwy'r amser, mae angen i rai fod yn hawdd i chi eu hychwanegu yn ystod sesiwn, ond gellir storio rhai eitemau i ffwrdd oherwydd efallai mai dim ond yn achlysurol y gellir eu defnyddio. A yw'ch storfa'n adlewyrchu hyn?
  • Weithiau mae casgliadau adnoddau llai a wneir gan y plant yn fwy ystyrlon a gallant ysgogi cofio am brofiadau cadarnhaol a rennir. Sut allech chi gynnwys eich plant wrth ddatblygu eich casgliadau adnoddau naturiol?