A change to the way you sign in to the Childcare Offer for Wales service is coming soon
Do you provide childcare funded by the Childcare Offer for Wales?
If so, you will know that you sign in to the Childcare Offer for Wales digital service with your Government Gateway account.
Government Gateway is being replaced by GOV.UK One Login as the sign-in method for the Childcare Offer for Wales. In due course every Childcare Offer service user will need to move to GOV.UK One Login to sign into their Childcare Offer account. The process is straightforward, and Welsh Government anticipate you’ll be able to start moving to GOV.UK One Login from May. Welsh Government will email you to let you know when you can make the change.
However, you can start to prepare for the changeover now, which will make it even easier!
- When moving over to GOV.UK One Login, it will be important that each member of staff in your setting has their own unique email address. This is a requirement of GOV.UK One Login. Please ensure you have individual email addresses ready for all staff members to move to GOV.UK One Login when the time comes.
- If you have more than one Government Gateway account linked to the Childcare Offer for Wales, you will need to move each of these accounts to GOV.UK One Login when the time comes.
- If you have more than one Government Gateway account linked to the Childcare Offer for Wales and you use the same email address for each of these Government Gateway accounts, you will need to have a unique email address ready for each account when the time comes to move. This is a requirement of GOV.UK One Login.
- Please ensure the email address noted under ‘Your details’ in your Childcare Offer account is correct, as further guidance on moving to GOV.UK One Login will be sent to this email address. This will include details on how to receive help and support on moving to GOV.UK One Login. To sign into the Childcare Offer for Wales to check the email address Welsh Government have on file for you, please go to: Providers sign in to your Childcare Offer for Wales account
Further information
If you have further queries please email paceycymru@pacey.org.uk
Mae’r ffordd y byddwch yn mewngofnodi i wasanaeth Cynnig Gofal Plant Cymru yn newid yn fuan
Ydych chi'n darparu gofal plant sy'n cael ei ariannu gan Gynnig Gofal Plant Cymru?
Os felly, byddwch yn gwybod eich bod yn mewngofnodi i wasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru gyda'ch cyfrif Porth y Llywodraeth (Government Gateway yn Saesneg).
Mae Porth y Llywodraeth yn cael ei ddisodli gan GOV.UK One Login fel y dull cofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru. Maes o law bydd angen i bob defnyddiwr gwasanaeth Cynnig Gofal Plant symud i GOV.UK Un One Login i fewngofnodi i'w cyfrif Cynnig Gofal Plant. Mae'r broses yn syml, ac mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddwch yn gallu dechrau symud i GOV.UK One Login o fis Mai. Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi pryd y gallwch wneud y newid.
Fodd bynnag, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer y newid nawr, a fydd yn ei gwneud hi'n haws fyth!
- Wrth symud i GOV.UK One Login, bydd yn bwysig bod gan bob aelod o staff yn eich lleoliad gyfeiriad e-bost unigryw. Mae hwn yn ofynnol gan UK One Login. Sicrhewch fod gennych gyfeiriadau e-bost unigol yn barod i bob aelod o staff er mwyn iddyn nhw allu symud i GOV.UK One Login pan ddaw'r amser.
- Os oes gennych fwy nag un cyfrif Porth y Llywodraeth sy'n gysylltiedig â'r Cynnig Gofal Plant i Gymru, bydd angen i chi symud pob un o'r cyfrifon hyn i GOV.UK One Login pan ddaw'r amser.
- Os oes gennych fwy nag un cyfrif Porth y Llywodraeth sy'n gysylltiedig â'r Cynnig Gofal Plant i Gymru a'ch bod yn defnyddio'r un cyfeiriad e-bost ar gyfer pob un o'r cyfrifon Porth Llywodraeth hyn, bydd angen i chi gael cyfeiriad e-bost unigryw yn barod ar gyfer pob cyfrif pan ddaw’r amser i symud. Mae hwn yn ofynnol gan GOV.UK One Login.
- Sicrhewch fod y cyfeiriad e-bost a nodir o dan 'Eich manylion' yn eich cyfrif Cynnig Gofal Plant yn gywir, gan y bydd canllawiau pellach ar symud i GOV.UK One Login yn cael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost hwn. Bydd hyn yn cynnwys manylion am sut i dderbyn cymorth a chefnogaeth ar symud i GOV.UK One Login. I fewngofnodi i Gynnig Gofal Plant Cymru i wirio'r cyfeiriad e-bost sydd gan Lywodraeth Cymru ar ffeil ar eich cyfer, ewch i: Mewngofnodi i gyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru
Gwybodaeth bellach
Os oes gennych ymholiadau pellach ar ôl darllen y rhain, anfonwch e-bost at paceycymru@pacey.org.uk