PACEY Cymru Celebration Event /Digwyddiad Dathlu PACEY Cymru

Darllennwch yma yng Nghymraeg. Read this in Welsh here

Join PACEY Cymru at our Celebration Event in Wales to celebrate the achievements of PACEY members over the last twelve months. This is the second event of this type to be held in Wales and a moment to come together as a sector and to celebrate the work of Members of PACEY and the role they've played in caring for children across Wales.

Alongside the celebration of achievements, you will hear from inspiring guest speakers including Frances Rees from Autism Cymru talking on the subject of neuro-diversity and Professor Ben Ambridge talking about his top ten evidence-based tips for boosting children’s language development.

When and where?

Date

Saturday 5th October 2024

Venue

Venue Cymru, Promenade, Llandudno, Conwy, LL30 1BB

10am start and finish at 4pm. 

Who is this event for?

This event is open to PACEY members and childminder non-members in Wales.

Cost and booking information

  • This event is free for PACEY members and childminder non-members in Wales.
  • Lunch and refreshments will be provided.

Your place will not be confirmed at the event until your completed booking has been submitted. All places are subject to availability.  

PACEY’s privacy policy sets out how PACEY uses and protects any personal information that you give us.  PACEY is committed to ensuring that your privacy is protected. For further information please see PACEY Privacy Policy.

PACEY Cymru Awards 2024

During the event we will be recognising the following:

Welsh language learner of the year

Social media star

Contribution to the work of PACEY

Rewarding Registration

Regional childminder of the year

Team leadership

Well-being champion

Partnership in practice

  • Welsh language learner of the year

Celebrating the achievements of members who have demonstrated their commitment to the development of Welsh language skills within a setting.

  • Social media star

Celebrating members in Wales who have used social media contributions to support and inspire others and promote quality childcare.

  • Contribution to the work of PACEY

Awards to recognise members who have engaged with PACEY and contributed to our work in Wales over the last 12 months.

  • Rewarding Registration

Celebrating PACEY members who have worked to register as a childminder in Wales and supported others.

How will the awards above be decided?

The PACEY Cymru team will use the knowledge and evidence we have collated to agree the shortlist and agree the winner.

  • Regional childminder of the year

Awards to recognise and celebrate the very best childminders. Those who make a difference to the lives of the children they care for, who set the bar high and are an inspiration to all in the profession.

Regional winners from across England and Wales were announced during childminding week and we will take time at our event to recognise the regional award winners from Wales.  

Awards open for nominations.

  • Team leadership

Celebrating PACEY members who have used a positive and inspiring approach to supporting staff within a childcare setting in Wales.

We welcome nominations from staff members, students or volunteers working in childcare settings in Wales. This could for example be a childminding assistant, nursery worker or a childcare student.  You will need to ensure that the person you are nominating is a PACEY member. We suggest you check this with the setting directly before making a nomination. You can nominate someone for this award here. Closing date for nominations is 14 September.

  • Well-being champion

Celebrating PACEY members who have worked in their setting to support children’s well-being in Wales.

We welcome nominations from parents/carers whose children are using a childcare setting managed by a PACEY member in Wales.  This could for example be a childminder, nanny, nursery or playgroup. You will need to ensure that the person you are nominating is a PACEY member. We suggest you check this with the setting directly before making a nomination. Parent/carers can nominate someone for this award here. Closing date for nominations is 14 September.

  • Partnership in practice

Celebrating members who have worked in partnership with a local authority childcare team in Wales and in doing so supported raising the profile and professionalism of childminding.

We welcome nominations from Local Authority childcare teams in Wales who have worked positively in partnership with a childminder member and want these achievements to be recognised. You will need to ensure that the person you are nominating is a PACEY member. We suggest you check this with the childminder directly before making a nomination. A Local Authority can nominate someone for this award here. Closing date for nominations is 14 September.

Further information

We will be announce the shortlist of nominees in September with winners announced at the event.

If you have any queries in relation to these events please contact paceycymru@pacey.org.uk or telephone 02920 351 407 

 

Ymunwch â PACEY Cymru yn ein Digwyddiad Dathlu yng Nghymru i ddathlu llwyddiannau aelodau PACEY dros y deuddeg mis diwethaf. Dyma’r ail ddigwyddiad o’r math hwn i’w gynnal yng Nghymru ac mae’n foment i ddod at ein gilydd fel sector ac i ddathlu gwaith Aelodau PACEY a’r rôl y maent wedi’i chwarae wrth ofalu am blant ledled Cymru.

Ochr yn ochr â dathlu cyflawniadau, byddwch yn clywed gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig gan gynnwys Frances Rees o Awtistiaeth Cymru yn siarad ar bwnc niwrowahaniaeth a’r Athro Ben Ambridge yn siarad am y 10 awgrym gorau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer hybu datblygiad iaith plant.

Pryd a ble?

Dyddiad

Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024

Lleoliad

Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, Conwy, LL30 1BB

Cychwyn am 10yb ac y byddwn yn gorffen am 4yp.

Ar gyfer pwy mae'r digwyddiad yma?

Mae'r digwyddiad yma yn agored i aelodau PACEY a gwarchodwyr plant nad ydynt yn aelodau yng Nghymru.

Gwybodaeth am gostau ac archebu

  • Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i aelodau PACEY a gwarchodwyr plant nad ydynt yn aelodau yng Nghymru. 
  • Darperir cinio a lluniaeth.

Ni chadarnheir eich lle yn y digwyddiad hyd nes y bydd eich archeb wedi'i chwblhau ac wedi'i chyflwyno. Mae pob lle yn amodol ar argaeledd. 

Mae polisi preifatrwydd PACEY yn nodi sut mae PACEY yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni. Mae PACEY wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. I gael rhagor o wybodaeth gweler Polisi Preifatrwydd PACEY.

Gwobrau PACEY Cymru 2024

Yn ystod y digwyddiad byddwn yn dyfarnu'r gwobrau canlynol.

Dysgwr Cymraeg y flwyddyn

Seren cyfryngau cymdeithasol

Cyfraniad at waith PACEY

Gwobrwyo Cofrestru

Gwobrau gwarchodwr plant rhanbarthol y flwyddyn

Arweinyddiaeth tîm

Hyrwyddwr lles

Partneriaeth ar waith

  • Dysgwr Cymraeg y flwyddyn

Dathlu llwyddiannau aelodau sydd wedi dangos eu hymrwymiad i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg o fewn lleoliad.

  • Seren cyfryngau cymdeithasol

Dathlu aelodau yng Nghymru sydd wedi defnyddio cyfraniadau cyfryngau cymdeithasol i gefnogi ac ysbrydoli eraill a hyrwyddo gofal plant o safon.

  • Cyfraniad at waith PACEY

Gwobrau i gydnabod aelodau sydd wedi ymgysylltu â PACEY ac wedi cyfrannu at ein gwaith yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. 

  • Gwobrwyo Cofrestru

Dathlu aelodau PACEY sydd wedi gweithio i gofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru ac wedi cefnogi eraill.

Sut bydd y gwobrau uchod yn cael eu penderfynu? 

Bydd tîm PACEY Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth rydym wedi’u casglu i gytuno ar y rhestr fer ac i gytuno ar yr enillydd.

  • Gwobrau gwarchodwr plant rhanbarthol y flwyddyn

Gwobrau i gydnabod a dathlu'r gwarchodwyr plant gorau oll. Y rhai sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau'r plant y maent yn gofalu amdanynt, sy'n gosod y bar yn uchel ac yn ysbrydoliaeth i bawb yn y proffesiwn.

Cyhoeddwyd enillwyr rhanbarthol o bob rhan o Gymru a Lloegr yn ystod wythnos gwarchod plant a byddwn yn cymryd amser yn ein digwyddiad i gydnabod enillwyr y gwobrau rhanbarthol o Gymru.

Gwobrau ar agor ar gyfer enwebiadau

  • Arweinyddiaeth tîm

Dathlu aelodau PACEY sydd wedi defnyddio dull cadarnhaol ac ysbrydoledig i gefnogi staff mewn lleoliad gofal plant yng Nghymru.

Rydym yn croesawu enwebiadau gan aelodau staff, myfyrwyr neu wirfoddolwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru. Er enghraifft, gallai hyn fod yn gynorthwyydd gwarchod plant, gweithiwr meithrinfa neu fyfyriwr gofal plant. Gallwch enwebu rhywun ar gyfer y wobr fan yma. Y dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau fydd 14 Medi.

  • Hyrwyddwr lles

Dathlu aelodau PACEY sydd wedi gweithio yn eu lleoliad i gefnogi lles plant.

Rydym yn croesawu enwebiadau gan rieni/gofalwyr sydd yn defnyddio lleoliad gofal plant a reolir gan aelod PACEY.  Er enghraifft, gallai hyn fod yn warchodwr plant, nani, meithrinfa neu gylch chwarae. Gall rhieni/gofalwyr enwebu rhywun ar gyfer y wobr fan yma. Y dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau fydd 14 Medi.

  • Partneriaeth ar waith

Dathlu aelodau sydd wedi gweithio mewn partneriaeth â thîm gofal plant awdurdod lleol ac wrth wneud hynny wedi cefnogi codi proffil a phroffesiynoldeb gwarchod plant.

Rydym yn croesawu enwebiadau gan dimau gofal plant Awdurdodau Lleol sydd wedi gweithio'n gadarnhaol mewn partneriaeth ag aelod o warchodwyr plant ac am i'r cyflawniadau hyn gael eu cydnabod. Gall Awdurdod Lleol enwebu rhywun ar gyfer y wobr fan yma. Y dyddiad cau ar gyfer yr enwebiadau fydd 14 Medi.

Gwybodaeth bellach

Byddwn yn cyhoeddi'r rhestr fer o enwebeion ym mis Medi gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r digwyddiadau yma cysylltwch â paceycymru@pacey.org.uk neu ffoniwch 02920 351 407