Back to blog listing

Next article

BLOG: Engaging parents and carers in supporting tactile sensory experiences / Cynnwys rhieni a gofal

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here.

Working in partnership with parents and carers supports consistency for the child, promoting their wellbeing, learning and development. Previous blogs in this series have explored the importance of tactile sensory experiences and considered engaging children in tactile sensory experiences. This blog will focus on working in partnership with parents and carers to engage them in supporting children’s tactile sensory experiences.

Many parents and carers will love the fact that their children have access to a variety of sensory play options with you and will understand why it’s so important in terms of their development. 

If parents and carers don’t understand the benefits or are not on board with the tactile sensory experiences however, barriers might exist, preventing children from engaging in some of the opportunities on offer and possibly creating friction in their relationship with you.

Sharing the benefits of sensory play with parents and carers

Raising awareness of the benefits of sensory play should be seen and planned for as an ongoing process rather than a one-off event. The more you talk about this in the many ways that you share information and communicate with parents, the more likely they are to be on board with your approach to providing sensory play opportunities.

Start from day one. Make sure that publicity information about your setting reflects that you offer lots of sensory experiences. Talk about this when potential families visit so they know what to expect.

Share the importance of sensory play with parents and carers in imaginative ways. Use photos, videos, or quotes from their children to illustrate for example how engaged and enthusiastic they are and what rich new vocabulary can be triggered through sensory play. Chat or write about sensory experiences in individual child records such as daily diaries or journals.

Here are some further practical ideas to promote the benefits of sensory play with parents:

Reflect and Consider: How do you currently share this sort of information with parents and carers. How accessible is it? Is information clear enough? Is it practical enough? Do you feel confident to explain the benefits?

Overcoming barriers

You might still have some parents and carers who don’t want their children to get involved in sensory play. It is really important to understand and find out why this is, so that you can respond and support appropriately, taking account of individual concerns or situations.

Some scenarios might include:

  • The parent or carer’s perception that ‘messy play’ is ‘dirty’.

You could look to shift thinking by changing the words used to describe the activity or experience. Using sensory play or exploration might alter perception positively.

  • That sensory play has no obvious outcome.

This could flag a need to re-visit your vision for learning with parents and carers to illustrate that exploration is valid in itself and the process is very important. Also, that an ‘end product’ might not be an outcome. Talking together about parents and carers expectations will hopefully open-up thinking about this point and indeed how children learn.

“I make it very clear to parents the ethos of my setting and things like the fact that we are very much process over product so their child will not be bringing home a pretty craft every day. What they will get is real-life, hands-on experiences in a place that is an extension of their home. They will get plenty of photos of their child engaged in meaningful, self-directed play. I share articles and blogs with parents so they can get a deeper understanding of why it’s important for their children to have these experiences” (Amanda, Flintshire)

  • Children have been told to keep their clothes clean.

Do you have spare clothes in your setting for children to change into either provided by parents or aprons, overalls or wellies provided by the setting for children to use?

“'I do a lot of sensory play and have asked all the parents to provide a messy play outfit for their child. These clothes stay at my setting and are washed at the end of the day. Parents are very happy with this as they know their children have lots of fun, but they don’t have any extra washing or their child’s “nice” clothes being ruined. I also have all-in-one wetsuits and wellies in various sizes so all the children can enjoy the outdoors no matter what the weather. This is so important as then if a parent forgets a child’s coat or shoes it doesn’t prevent us all from going outdoors” (Alison, Denbighshire)

  • Don’t get sand in your hair!

Elizabth shares “I remember this well from my days working in a setting where some children had intricately braided hair. It was a real issue for parents to get the sand out, without undoing the many braids. So, we worked with parents and carers to find a solution and children had a sand hat available to wear. It helped a lot, but the issue wasn’t completely resolved. Working with parents to find culturally appropriate solutions was great and triggered lots of valuable conversations about why sand play was important.” 

Reflect and Consider: Whilst keeping things manageable, how flexible are you to ensure that everyone can access the sensory options available? Is there anything more that you could do?

Encouraging parents and carers to offer sensory experiences at home

Whilst parents might not want to offer the more ‘messy materials’ at home for a variety of valid reasons, try to involve parents and carers in supporting their child to develop tactile confidence in manageable ways. Here are some ideas:

  • Create and explain some parallel home/setting sensory care experiences, for example washing your hands before eating, or cleaning your teeth etc.
  • Share ways that you could incorporate sensory experiences into home routines and everyday situations for example, washing fruit and vegetables, unpacking the shopping, watering plants, or washing the car etc. 
  • You could send small quantities of sensory resources home for the child to continue to explore there, for example a small collection of pinecones in a lidded box to combine with resources at home. The children could even make their own collections to take home while they are with you, for example if you go out on a walk. 
  • There are activity ideas for parents and carers on exploring texture from BBC Tiny Happy People which not only has ideas for creating a texture board or book but also explains why it is important for children to feel different textures.

Signposts

Inspiring Environments, including Sensory materials and experiences, Managing sensory input and Thoughts on sensory play

Working in parentship with parents and partnership with parents (PACEY members)

PACEY members can access a range of CEY smart courses on a broad range of topics including creativity and the arts in the early years - malleable and modelling materials which can be found in the Let’s get creative theme, and supporting the development of self-regulation skills in the You, me and us theme. PACEY members also access a range of sensory activity ideas in our activities and downloads area of the website, including Winter sensory play.

Further resources

BBC Tiny Happy People, exploring texture

The Imagination Tree, exploring textures

BBC Tiny Happy People What is sensory play? And what are the benefits of sensory play for babies and children?

Kinderley, Play in early years: A matter of life and death?

The British Psychological Society, Living with Touch

About the author - Elizabeth Jarman

Elizabeth is an internationally recognised learning environments expert. She is an award-winning author. Elizabeth developed The Communication Friendly Spaces™ Approach, which uses the environment to support communication skills, emotional well-being and physical development. Elizabeth’s work is widely recognised and respected and her thinking is professionally challenging the way that environments for children are viewed. 

See www.elizabethjarman.com for more information.

 

Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr yn cefnogi cysondeb i’r plentyn, gan hyrwyddo eu lles, eu haddysg a’u datblygiad. Mae blogiau blaenorol yn y gyfres hon wedi archwilio pwysigrwydd profiadau synhwyraidd cyffyrddol ac wedi ystyried cynnwys plant mewn profiadau synhwyraidd cyffyrddol. Bydd y blog yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth gyda rhieni a gofalwyr i'w hymgysylltu i gefnogi profiadau synhwyraidd cyffyrddol plant.

Bydd llawer o rieni a gofalwyr wrth eu boddau gyda'r ffaith bod gan eu plant fynediad at nifer o ddewisiadau chwarae synhwyraidd gyda chi ac yn deall pam ei fod mor bwysig o ran eu datblygiad. 

Fodd bynnag, os nad yw rhieni a gofalwyr yn deall y manteision neu nad ydynt yn hapus gyda'r profiadau synhwyraidd cyffyrddol, mae'n bosib y bydd rhwystrau'n bodoli, sydd yn atal plant rhag ymgysylltu â rhai o'r cyfleoedd sydd ar gael ac o bosib yn creu gwrthdaro yn eu perthynas gyda chi.

Rhannu'r manteision o chwarae synhwyraidd gyda rhieni a gofalwyr

Dylai fod codi ymwybyddiaeth am fanteision chwarae synhwyraidd yn cael ei weld a'i gynllunio fel proses parhaol yn hytrach na digwyddiad untro. Y mwyaf rydych yn siarad am hyn yn y nifer o ffyrdd rydych yn rhannu gwybodaeth a chyfathrebu gyda rhieni, y mwyaf tebygol y byddant o gytuno gyda'ch dull o ddarparu cyfleoedd chwarae synhwyraidd.

Dechrau o'r diwrnod cyntaf. Gwnewch yn siŵr fod gwybodaeth cyhoeddusrwydd am eich lleoliad yn adlewyrchu eich bod yn cynnig llawer o brofiadau synhwyraidd. Siaradwch am hyn pan fo darpar deuluoedd yn ymweld fel eu bod yn gwybod beth i ddisgwyl.

Rhannwch bwysigrwydd chwarae synhwyraidd gyda rhieni a gofalwyr mewn ffyrdd dychmygol. Defnyddiwch luniau, fideos, neu ddywediadau gan eu plant er mwyn dangos enghraifft o ba mor ymgysylltiol a brwdfrydig ydyn nhw a pha eirfa gyfoethog y gellir ei sbarduno trwy chwarae synhwyraidd. Siaradwch neu ysgrifennwch am brofiadau synhwyraidd mewn cofnodion plant unigol megis cofnodion dyddiaduron a chyfnodolion.

Dyma ychydig o syniadau ymarferol pellach i hyrwyddo manteision chwarae synhwyraidd gyda rhieni:

Myfyriwch ac Ystyriwch: Sut ydych chi'n rhannu'r math yma o wybodaeth gyda rhieni a gofalwyr ar hyn o bryd. Pa mor hygyrch ydyw? Ydy'r wybodaeth yn ddigon clir? Ydyw'n ddigon ymarferol? Ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus i egluro'r manteision?

Goresgyn rhwystrau

Efallai bod gennych chi rai rhieni a gofalwyr o hyd nad ydyn nhw eisiau i’w plant gymryd rhan mewn chwarae synhwyraidd. Mae'n bwysig iawn deall a darganfod pam, fel y gallwch ymateb a chefnogi’n briodol, gan ystyried pryderon neu sefyllfaoedd unigol.

Gallai rhai senarios gynnwys:

  • Efallai bod y rhiant neu ofalwr yn meddwl bod ‘chwarae blêr’ yn ‘fudr’.

Gallech geisio newid eu meddwl trwy newid y geiriau rydyn ni'n eu defnyddio i ddisgrifio'r gweithgaredd neu'r profiad. Gallai defnyddio chwarae synhwyraidd neu ymchwilio newid canfyddiad yn gadarnhaol.

  • Nid oes gan y chwarae synhwyraidd unrhyw ganlyniad amlwg.

Gallai hyn dynnu sylw at yr angen i ailedrych ar eich gweledigaeth ar gyfer dysgu gyda rhieni a gofalwyr i ddangos bod archwilio yn ddilys ynddo’i hun a bod y broses yn hynod o bwysig. Hefyd, efallai nad yw ‘cynnyrch terfynol’ yn ganlyniad. Gobeithio y bydd siarad gyda’n gilydd am ddisgwyliadau rhieni a gofalwyr yn arwain at feddwl am y pwynt hwn a sut mae plant yn dysgu.

“Rwy’n gwneud ethos fy lleoliad yn glir iawn i rieni a phethau fel y ffaith ein bod ni’n credu mewn proses dros gynnyrch felly ni fydd eu plentyn yn dod â chrefft brydferth adref bob dydd. Yr hyn y byddant yn ei gael yw profiadau ymarferol bywyd go iawn mewn lle sy'n estyniad o'u cartref. Byddant yn derbyn digon o luniau o'u plentyn yn cymryd rhan mewn chwarae ystyrlon, hunangyfeiriedig. Rwy’n rhannu erthyglau a blogiau gyda rhieni er mwyn iddynt gael dealltwriaeth ddyfnach o pam ei bod yn bwysig i’w plant gael y profiadau hyn” (Amanda, Sir y Fflint)

  • Dywedwyd wrth y plant am gadw eu dillad yn lân.

Oes gennych chi ddillad glan yn eich lleoliad i blant newid i mewn iddynt, naill ai wedi'u darparu gan rieni, neu ffedogau, oferôls neu esgidiau glaw i'r plant eu defnyddio wedi'u darparu gan y lleoliad?

“'Rwy'n gwneud llawer o chwarae synhwyraidd ac wedi gofyn i'r holl rieni ddarparu gwisg chwarae blêr i'w plentyn. Mae'r dillad hyn yn aros yn fy lleoliad ac yn cael eu golchi ar ddiwedd y dydd. Mae rhieni'n hapus iawn â hyn gan eu bod yn gwybod bod eu plant yn cael llawer o hwyl, ond nid oes unrhyw olchi ychwanegol i'w wneud ac nid yw'n difetha dillad “taclus” eu plentyn. Mae gen i hefyd siwtiau gwlyb ac esgidiau glaw mewn gwahanol feintiau fel y gall yr holl blant fwynhau'r awyr agored waeth beth yw'r tywydd. Mae hyn mor bwysig achos os yw rhiant yn anghofio cot neu esgidiau plentyn, nid yw'n ein rhwystro ni i gyd rhag mynd allan i'r awyr agored" (Alison, Sir Ddinbych)

  • Peidiwch â chael tywod yn eich gwallt!

Mae Elizabeth yn rhannu, "Rwy'n cofio hyn yn dda o fy nyddiau'n gweithio mewn lleoliadau lle roedd gan rai plant wallt plethedig cymhleth. Roedd wir yn broblem i rieni gael y tywod allan, heb ddatglymu'r plethau niferus. Felly, buom yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr i ddod o hyd i ateb a chafodd y plant het dywod a oedd ar gael iddynt wisgo. Fe wnaeth helpu'n fawr, ond ni chafodd y mater ei ddatrys yn llwyr. Roedd gweithio gyda rhieni i ddod o hyd i atebion diwylliannol briodol yn wych ac ysgogodd lawer o sgyrsiau gwerthfawr ynghylch pam roedd chwarae tywod yn bwysig." 

Myfyriwch ac Ystyriwch: Wrth gadw pethau dan reolaeth, pa mor hyblyg ydych chi i wneud yn siŵr bod gan bawb fynediad at y dewisiadau synhwyraidd sydd ar gael? Oes unrhyw beth mwy y gallwch chi ei wneud?

Annog rhieni a gofalwyr i gynnig profiadau synhwyraidd yn y cartref

Er efallai na fydd rhieni eisiau cynnig y ‘deunyddiau mwy blêr’ gartref am amrywiaeth o resymau dilys, rhowch gynnig ar gynnwys rhieni a gofalwyr wrth gefnogi eu plentyn i ddatblygu hyder cyffyrddol mewn ffyrdd rhwydd. Dyma rhai syniadau:

  • Creu ac esbonio rhai profiadau gofal synhwyraidd cartref/lleoliad cyfochrog, er enghraifft golchi eich dwylo cyn bwyta, neu lanhau eich dannedd ac ati.
  • Rhannu ffyrdd y gallwch gynnwys profiadau synhwyraidd at arferion cartref a sefyllfaoedd pob dydd, er enghraifft, golchi ffrwythau a llysiau, dadbacio siopa, dyfrio planhigion, neu olchi'r car ac ati. 
  • Gallech anfon pytiau bach o adnoddau synhwyraidd adref i'r plentyn i barhau i ddarganfod o fanno, er enghraifft casgliad bach o foch coed mewn bocs â chaead i'w gyfuno gydag adnoddau gartref. Gallai’r plant hyd yn oed wneud eu casgliadau eu hunain i fynd adref tra byddant gyda chi, er enghraifft os ewch chi allan am dro. 
  • Mae yna syniadau gweithgaredd i rieni a gofalwyr ar archwilio gwead gan Tiny Happy People y BBC sydd nid yn unig yn cynnwys syniadau ar gyfer creu bwrdd neu lyfr gwead ond sydd hefyd yn esbonio pam ei bod yn bwysig i blant deimlo gweadau gwahanol.

Arwyddion cyfeirio

Amgylcheddau Ysbrydoledig, gan gynnwys Deunyddiau a phrofiadau synhwyraidd, Rheoli mewnbwn synhwyraidd a Meddyliau am chwarae synhwyraidd

Gweithio mewn partneriaeth gyda rhieni ac partneriaeth gyda rhieni (aelodau PACEY)

Gall aelodau PACEY gael mynediad i ystod o gyrsiau CEY smart ar ystod eang o bynciau gan gynnwys creadigrwydd a’r celfyddydau yn y blynyddoedd cynnar - deunyddiau hydrin a modelu sydd i’w cael yn y thema Dewch i ni fod yn greadigol, a chefnogi datblygiad sgiliau hunanreoleiddio yn y thema Ti, fi a ni. Mae gan aelodau PACEY hefyd fynediad at ystod o syniadau gweithgaredd synhwyraidd yn ein rhan gweithgareddau a lawrlwythiadauo'r wefan, gan gynnwys Chwarae synhwyraidd gaeafol.

Adnoddau pellach

Tiny Happy People y BBC, archwilio gweadau

Y Goeden Ddychymyg, archwilio gweadau

Tiny Happy People y BBC Beth yw chwarae synhwyraidd? A beth yw manteision chwarae synhwyraidd ar gyfer babanod a phlant?

Chwarae yn y blynyddoedd cynnar: Mater o fywyd a marwolaeth?

Cymdeithas Seicolegol Prydain, Byw gyda Chyffyrddiad

Am yr awdur

Mae Elizabeth yn arbenigwr amgylcheddau dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae hi'n awdur sydd wedi ennill gwobrau. Datblygodd Elizabeth y Dull The Communication Friendly Spaces™, sy'n defnyddio'r amgylchedd i gefnogi sgiliau cyfathrebu, lles emosiynol a datblygiad corfforol. Mae gwaith Elizabeth yn cael ei gydnabod a'i barchu'n eang ac mae ei ffordd o feddwl yn herio’n broffesiynol y ffordd y mae amgylcheddau i blant yn cael eu hystyried. Gweler www.elizabethjarman.com i gael mwy o wybodaeth.

Comments
Blog post currently doesn't have any comments.
 Security code