PACEY in Wales/yng Nghymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  Read this in Welsh here.

PACEY Cymru is here to support people who work with and look after children in Wales.  PACEY Cymru supports those working in childcare and early years to provide high quality care and early learning for children and families.

We work with the Welsh Government, Care Inspectorate Wales (CIW), Social Care Wales, Estyn, local authorities and other organisations and agencies to ensure families across Wales have access to affordable, quality childcare.  We receive funding from the Welsh Government through both the Childcare, Play and Early Years division (through our Cwlwm consortium) and the Education directorate (for curriculum Development Officer funding).

Cwlwm

PACEY Cymru is supported by funding from the Welsh Government. We’re one of five leading childcare and play organisations working together through the Welsh Government funded consortium, Cwlwm (Childcare Wales Learning and Working Mutually).

Cwlwm partner organisations are

  • Mudiad Meithrin (who are the lead for Cwlwm)
  • Professional Association for Childcare and Early Years (PACEY Cymru)
  • Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
  • National Day Nurseries Association Cymru
  • Early Years Wales

Funding for Cwlwm runs currently until March 2025 and ensures PACEY Cymru can support members in Wales, other childminders and partners, including local authorities, the Welsh Government and their statutory agencies. 

Our work in Wales

As well as supporting childcare professionals, our work in Wales includes:

  • Supporting and developing high quality Early Years, Childcare and Play Services
  • Supporting the implementation of key policies and initiatives within the Early Years, Childcare and Playwork sector
  • Developing and delivering training and services to partners, including local authorities through PACEY Connect Cymru a package of services which help local authorities support early years professionals in their area.
  • Representing the childcare and early years sector in Wales
  • Being a source of information, expertise, knowledge and training to key partners across Wales.  Read the Cwlwm newsletters

PACEY Cymru is keen to work in partnership with Local Authority Childcare Teams, Family Information Services, and staff for Job Centre Plus, Communities for Work, Colleges and other organisations to raise the awareness of childminding as a career and childcare choice.

PACEY Cymru would welcome the opportunity to deliver awareness raising sessions with staff, to attend events and careers fairs, or to help with queries from individuals who may be interested in taking the next steps to becoming a childminder. For more information call us on 02920 351407 or email us at paceycymru@pacey.org.uk.

There is further information for members on how you can be involved on the Engagement in Wales page.

Where to find us

PACEY Cymru has regional staff throughout Wales. Our main office is in Cardiff, where our administration team is based:

The Maltings
East Tyndall Street
Cardiff CF24 5EZ

For more information about PACEY Cymru or to discuss anything related to working in childcare in Wales, please call 02920 351407 or email paceycymru@pacey.org.uk

 

Mae PACEY Cymru yma i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant ac yn gofalu am blant yng Nghymru.  Mae PACEY Cymru yn cefnogi'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal plant a blynyddoedd cynnar i ddarparu gofal a dysgu cynnar o ansawdd uchel i blant a theuluoedd.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Estyn, awdurdodau lleol ac asiantaethau i sicrhau bod gan deuluoedd ledled Cymru fynediad at ofal plant fforddiadwy ac o safon.  Rydym yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy'r is-adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar (drwy ein consortiwm Cwlwm) a'r gyfarwyddiaeth Addysg (ar gyfer cyllid Swyddog Datblygu).

Cwlwm

Cefnogir PACEY Cymru gan arian gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn un o bum sefydliad gofal plant a chwarae blaenllaw sy’n gweithio gyda'n gilydd drwy'r consortiwm a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Cwlwm (Dysgu a Gweithio Cydfuddiannol Gofal Plant Cymru).

Sefydliadau partner Cwlwm yw

  • Mudiad Meithrin (sy'n arwain Cwlwm)
  • Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY Cymru)
  • Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
  • Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru
  • Blynyddoedd Cynnar Cymru

Mae cyllid ar gyfer Cwlwm yn rhedeg ar hyn o bryd tan fis Mawrth 2023 ac yn sicrhau y gall PACEY Cymru gefnogi aelodau yng Nghymru, gwarchodwyr plant a phartneriaid eraill, gan gynnwys awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a'u hasiantaethau statudol. 

Ein gwaith yng Nghymru

Yn ogystal â chefnogi gweithwyr proffesiynol gofal plant, mae ein gwaith yng Nghymru yn cynnwys:

  • Cefnogi a datblygu Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae o ansawdd uchel
  • Cefnogi gweithredu polisïau a mentrau allweddol yn y sector Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Gwaith Chwarae
  • Datblygu a darparu hyfforddiant a gwasanaethau i bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol drwy PACEY Cyswllt Cymru sy’n becyn o wasanaethau sy'n helpu awdurdodau lleol i gefnogi gweithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar yn eu hardal.
  • Cynrychioli'r sector gofal plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru
  • Bod yn ffynhonnell wybodaeth, arbenigedd, gwybodaeth a hyfforddiant i bartneriaid allweddol ledled Cymru. Darllenwch cylchlythyrau Cwlwm

Mae PACEY Cymru yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â Thimau Gofal Plant yr Awdurdod Lleol, Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, a staff y Ganolfan Byd Gwaith, Cymunedau am Waith, PaCE, Colegau a sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o warchod plant fel dewis gyrfa a gofal plant.

Byddai PACEY Cymru yn croesawu’r cyfle i gyflwyno sesiynau codi ymwybyddiaeth gyda staff, mynychu digwyddiadau a ffeiriau gyrfaoedd, neu i helpu gydag ymholiadau gan unigolion a allai fod â diddordeb mewn cymryd y camau nesaf i ddod yn warchodwr plant. Am ragor o wybodaeth ffoniwch ni ar 02920 351407 neu anfonwch e-bost atom yn paceycymru@pacey.org.uk.

Mae mwy o wybodaeth i aelodau ar sut y gallwch chi fod yn rhan ar y dudalen Ymgysylltu yng Nghymru.

Ble i ddod o hyd i ni

Mae gan PACEY Cymru staff rhanbarthol ledled Cymru. Mae ein prif swyddfa yng Nghaerdydd, lle mae ein tîm gweinyddu wedi'i leoli:

Y Maltings
Stryd East Tyndall
Caerdydd CF24 5EZ

I gael rhagor o wybodaeth am PACEY Cymru neu i drafod unrhyw beth sy'n ymwneud â gweithio ym maes gofal plant yng Nghymru, ffoniwch 02920 351407 neu anfonwch e-bost at paceycymru@pacey.org.uk

 

 

You might also like