Register as a childminder in Wales

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here.

If you want to be paid to look after children under 12 in Wales for more than two hours a day, you must register with CIW. 

Can I register?

Before you register, you must ensure that you:

  • have the right to work in the UK
  • are aged 18 or over
  • are allowed to work with children - you’ll need to have a Disclosure and Barring Service (DBS) check beforehand, along with anyone else living with you over aged 16
  • are physically and mentally capable of caring for children. Your doctor will have to sign a health declaration form to confirm this.

You can’t register if you’re disqualified, for example:

  • if you are barred from working with children
  • if you have been refused registration previously
  • if you have had your registration cancelled by CIW previously
  • if you live in the same place as someone else who is disqualified.

First five steps to registration in Wales.

  • Attend a Briefing Information Session
  • Complete the pre-registration training 'Understand how to set up a Home-Based Childcare Service' (CYPOP5 Unit)
  • Make use of the pre-registration support and workshops available
  • Complete and submit your application to CIW, including the health reference from your doctor; details of your paediatric first aid training and pre-registration training (CYPOP 5) certificates
  • Undertake Disclosure and Barring Service Checks (DBS) for you and anyone else over 16 in your home.

We have created a Steps to Registration Checklist that you can download free of charge. The checklist is a quick way of documenting what actions you have / need to complete before being able to register as a childminder in Wales.  

To find out more about local briefing sessions and pre-registration training and support available to you contact the Wales office on 0845 8801299 or email paceycymru@pacey.org.uk.

Once you have attended a briefing session and successfully undertaken your pre-registration training, you will need to complete CIW’s application form to become a registered childminder.

The application packs for childminding are available from the CIW website. You'll also find the National Minimum Standards for Regulated Childcare for Children up to the age of 12 years on the CIW website. You'll need to read these carefully to make sure you fully understand the rules and regulations you need to work under.

When you submit your completed application form to CIW, you will also need to undergo a Disclosure and Barring Service (DBS) check (formerly known as CRB). This will include any people on the proposed childminding premises aged 16 or over. You must contact one of CIW's offices to request a DBS check. They will confirm if you are eligible for a check and once confirmed, they will refer you to their third party provider. Further information on CIW requirements for DBS checks is available here.

Checks by CIW

Once you've submitted your application CIW will undertake a number of checks to evidence your suitability. Following these CIW will then visit your setting to discuss your application for registration and carry out a check of the premises inside and outside. You should have everything ready in place at this visit. This helps CIW to further make a decision on your suitability as a childminder.

Page 8 of the CIW registration guidance gives further information on what the inspector will be looking to discuss and assess.

The CIW inspector will decide the number of children that you are able to care for at any one time, up to a maximum of ten children under 12 years, of which usually no more than six may be under 8 years old, no more than three under 5 and no more than two under 18 months. If you have any children of your own under 12, they will be included in these numbers. You'll find out more at your local Briefing Information Session.

Following this visit you may be required to submit further information to CIW in line with any matters identified at the home visit. Once CIW has written confirmation from you that any matters identified at the home visit have been resolved CIW will make a final decision on your registration. This usually happens soon after the visit.

How long will it take to be registered?

As above, there are a number of steps to complete before submitting your application to CIW. For childminders once your application is submitted, it usually takes around three months to become registered. 

Successful registration

When your registration is successfully completed, you will receive a registration certificate from CIW and will then be able to start work as a registered childminder.

Once you receive your certificate of registration from CIW, you must display it in your childminding setting where parents and carers can see it.

Some local authorities have funding to offer start-up grants for childminders, so make sure to ask. The grants are to help with the costs you'll incur as your start your new childminding business. You can find the details of your local early years team here.

Insurance and membership of PACEY

Public liability insurance (PLI) is a legal requirement for registered childminders. It offers cover when you're working as a childminder against accidental damage or injury to the children or their possessions while in your care.

PACEY's PLI, which is underwritten by Royal and Sun Alliance Insurance PLC, offers PLI cover of £10,000,000 and professional indemnity cover of £100,000.

Being a member of PACEY will give you the support you need in your career. Discover more about the benefits and join today to make the best of your career.

Contact your local Family Information Service or early years team to see if there's funding available for your membership and insurance with PACEY. If so, they may be able to pay for your first year of membership through PACEY's Quality Start scheme. This is a year's membership (with all the benefits that includes), insurance, and a handy toolkit containing vital business paperwork including contracts and an accounts book.

We're here to help you

The team at PACEY Cymru offers a range of support, information, workshops and webinars to help you with your CIW application and to become registered.

For more information about PACEY Cymru, or for support with becoming a registered childminder in Wales, call us on 0845 880 1299 or email us at paceycymru@pacey.org.uk.

Cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru

Os hoffech gael eich talu i ofalu am blant o dan 12 oed yng Nghymru am fwy na dwy awr y dydd, rhaid i chi gofrestru ag AGC.

Allaf i gofrestru?

Cyn cofrestru, rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • Fod gennych hawl i weithio yn y DU.
  • Eich bod yn 18 oed neu hŷn.
  • Eich bod yn cael gweithio gyda phlant - bydd angen i chi gael eich gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ymlaen llaw, ynghyd ag unrhyw un arall dros 16 oed sy'n byw gyda chi.
  • Eich bod yn abl yn gorfforol ac yn feddyliol i ofalu am blant. Bydd rhaid i'ch meddyg arwyddo ffurflen datganiad iechyd i gadarnhau hyn.

Ni allwch gofrestru os ydych yng anghymwys, er enghraifft:

  • Os ydych wedi eich gwahardd rhag gweithio gyda phlant.
  • Os cawsoch eich gwrthod rhag cofrestru yn flaenorol.
  • Os cafodd eich cofrestriad ei ganslo gan AGC o’r blaen.
  • Os ydych yn byw yn yr un lle â rhywun arall sydd wedi'i anghymhwyso.

Y pum cam cyntaf wrth gofrestru yng Nghymru yw:

Rydym wedi creu Rhestr Wirio o Gamau i’w Dilyn wrth Gofrestru y gallwch ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim. Mae'r rhestr wirio yn ffordd gyflym o ddogfennu pa gamau yr ydych wedi/sydd angen i chi eu cwblhau cyn gallu cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru.

Er mwyn cael gwybod mwy am sesiynau briffio lleol a hyfforddiant cyn-cofrestru a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â Swyddfa Cymru drwy ffonio 0845 8801299 neu drwy anfon e-bost i paceycymru@pacey.org.uk.

Unwaith y byddwch wedi mynychu sesiwn friffio ac wedi cwblhau eich hyfforddiant cyn-cofrestru yn llwyddiannus, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais AGC i ddod yn warchodwr plant cofrestredig.

Mae’r pecynnau cais ar gyfer gwarchod plant ar gael ar wefan AGC. Byddwch hefyd yn dod o hyd i'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i Blant hyd at 12 oed ar wefan AGC. Bydd angen i chi ddarllen y rhain yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn deall yn gyfan gwbl beth yw’r rheolau a'r rheoliadau y mae angen i chi weithio oddi tanynt.

Pan fyddwch yn anfon eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i AGC, bydd angen i chi hefyd gael eich gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (yr hen CRB). Bydd hyn yn cynnwys unrhyw bersonau ar y safle gwarchod plant arfaethedig sy’n 16 oed neu hŷn. Rhaid i chi gysylltu ag un o swyddfeydd AGC i ofyn am wiriad DBS. Byddant yn cadarnhau a ydych yn gymwys i gael gwiriad, ac unwaith y bydd hyn wedi'i gadarnhau, byddant yn eich cyfeirio at eu darparwr trydydd parti. Mae rhagor o wybodaeth am ofynion AGC ar gyfer archwiliadau DBS ar gael yma.

Gwiriadau AGC

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais bydd AGC yn cynnal nifer o wiriadau i ddangos eich addasrwydd. Ar ôl y rhain bydd AGC yn ymweld â'ch lleoliad i drafod eich cais i gofrestru ac yn cynnal archwiliad o du mewn ac o du allan y safle. Dylech sicrhau fod popeth yn barod ac yn ei le adeg yr ymweliad hwn. Mae hyn yn helpu AGC i wneud penderfyniad ynglŷn â’ch addasrwydd fel gwarchodwr plant.

Mae tudalen 8 o ganllawiau cofrestru AGC yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr hyn y bydd yr arolygydd yn awyddus i'w drafod a'i asesu.

Bydd arolygydd AGC yn penderfynu ar nifer y plant y gallwch ofalu amdanynt ar unrhyw un adeg, hyd at fwyafrif o ddeg o blant o dan 12 oed, na all mwy na chwech ohonynt fel arfer fod o dan 8 oed, na all dim mwy na thri fod o dan 5 oed a dim mwy na dau ohonynt o dan 18 mis. Os oes gennych unrhyw blant eich hun dan 12 oed, byddant yn cael eu cynnwys yn y niferoedd hyn. Cewch ragor o wybodaeth yn eich Sesiwn Friffio a Gwybodaeth leol.

Yn dilyn yr ymweliad hwn, efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno rhagor o wybodaeth i AGC yn unol ag unrhyw faterion a nodwyd yn ystod yr ymweliad â'ch cartref. Unwaith y bydd AGC wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gennych y bydd unrhyw faterion a nodwyd yn ystod yr ymweliad â'ch cartref wedi cael eu datrys, bydd AGC yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â’ch cofrestriad. Mae hyn fel arfer yn digwydd yn fuan ar ôl yr ymweliad.

Faint o amser fydd hi’n gymryd i gofrestru?

Fel y gwelir uchod, mae nifer o gamau i'w cwblhau cyn anfon eich cais at AGC. Yn achos gwarchodwyr plant, unwaith y bydd eich cais wedi ei anfon, fel arfer bydd yn cymryd tua thri mis i gofrestru.

Cofrestru llwyddiannus

Pan fydd eich cofrestriad wedi'i gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif gofrestru gan AGC a byddwch wedyn yn gallu dechrau gweithio fel gwarchodwr plant cofrestredig.

Ar ôl i chi dderbyn eich tystysgrif gofrestru gan AGC, rhaid i chi ei harddangos yn eich lleoliad gwarchod plant lle gall rhieni a gofalwyr ei gweld.

Mae gan rai awdurdodau lleol arian i gynnig grantiau cychwyn i warchodwyr plant, felly gofalwch eich bod yn holi. Diben y grantiau yw helpu gyda'r costau y byddwch yn eu hysgwyddo wrth i chi gychwyn eich busnes gwarchod plant newydd. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich tîm blynyddoedd cynnar lleol yma.

Yswiriant ac aelodaeth o PACEY

Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (PLI) yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer gwarchodwyr plant cofrestredig. Mae'n cynnig yswiriant pan fyddwch yn gweithio fel gwarchodwr plant rhag difrod neu anafiadau damweiniol i'r plant neu eu heiddo tra byddant yn eich gofal.

Mae yswiriant atebolrwydd cyhoeddus PACEY, sydd wedi ei danysgrifennu gan Royal a Sun Alliance Insurance PLC, yn cynnig yswiriant PLI o £10,000,000 a sicrwydd indemniad proffesiynol o £100,000.

Bydd bod yn aelod o PACEY yn rhoi'r cymorth sydd ei angen arnoch yn eich gyrfa. Darganfyddwch fwy am y manteision ac ymunwch heddiw i wneud y gorau o'ch gyrfa.

Cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu eich tîm blynyddoedd cynnar lleol i weld a oes cyllid ar gael ar gyfer eich aelodaeth a'ch yswiriant gyda PACEY. Os oes cyllid ar gael, efallai y byddant yn gallu talu am eich aelodaeth am y flwyddyn gyntaf drwy gynllun ‘Quality Start’ PACEY. Mae hon yn aelodaeth am flwyddyn (gyda'r holl fuddion cynwysedig), yswiriant, a phecyn cymorth defnyddiol sy'n cynnwys gwaith papur busnes hanfodol gan gynnwys contractau a llyfr cyfrifon.

Rydym ni yma i’ch helpu

Mae tîm PACEY Cymru yn cynnig amrediad o gymorth, gwybodaeth, gweithdai a gweminarau i'ch helpu gyda'ch cais AGC ac i gael eich cofrestru.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am PACEY Cymru, neu gymorth i ddod yn warchodwr plant cofrestredig yng Nghymru, ffoniwch ni ar 0845 880 1299 neu anfonwch e-bost i paceycymru@pacey.org.uk.