Webinars for Wales / Gweminarau ar gyfer Cymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  

If you want to discuss important childcare issues in a friendly, supportive setting, sign up to one of our interactive sessions for Wales-based childcare professionals.

Our webinars are interactive training sessions led by an experienced PACEY tutor. They will guide you as part of a small group of childcare professionals, through the online session.

PACEY Cymru webinars can help you to stay in touch, keep up-to-date and continue your professional development remotely from the comfort and safety of home.

PACEY Cymru also offer a range of events to support childcare professionals who want to develop their knowledge and practice.

Here is what one recent member had to say about her webinar experience:

"My concerns for a webinar was that it wouldn't be like a face-to-face workshop, but I have found that not to be the case. We interacted in exactly the same way with the convenience of not having to drive to a venue." (childminder, Wales)

Upcoming Webinars in Wales

Webinar type Date Time Booking link
  December    
Starting your Learning Journey 6 December 10-11am Book here
Statement of Purpose 6 December 1-2pm Book here
Briefing Session 11 December 7-8pm Book here
Completing your CIW application 15 December 1-2pm Book here
  January 2024    
Welsh language support * 10 January 6.30-7pm Book here
PACEY Live - Sustained Shared Thinking
and Emotional Well-being *
11 January 7-8pm Book here

Completing your annual Quality of Care Review *

16 January 6.30-8pm Book here

All webinars above are free.
* These webinars are free for PACEY Practitioner members in Wales.

Taking part in a webinar

Taking part in a PACEY webinar is a great way to discuss your thoughts with others and get to ask questions of our expert tutors. Webinars run during the evening helping you fit training around your busy working day.

Each webinar you take part in goes towards your continuous professional development hours, an important part of your commitment to being a member of PACEY. 

How to book

Please register in advance by clicking on the booking link above, for any further queries please call PACEY Cymru on 02920 351407. Lines are open between 9am and 5pm, Monday to Friday. Outside these times, please send an email to paceycymru@pacey.org.uk and we'll get back to you.

Can’t find the training you’re looking for? Take a look at our workshops and events, or do you have any ideas for future webinars? Get in touch, we'd love to hear from you.

These webinars have been specifically developed to support your practice in Wales and a list of all webinar descriptions can be found below. 

Webinars from other providers

Pre-registration

Briefing sessions

Why choose to become a registered childminder or approved nanny?

If you are passionate about giving children the best start in life and would like a career that fits in with your family commitments then becoming a registered childminder could be an ideal choice. This workshop outlines the benefits of becoming a childminder and how you can develop your skills and build a business, while supporting children and families in your local community.

This webinar will explain to you the roles of both a registered childminder and an approved nanny.  

Following this webinar you will be able to:

  • Understand the registration or approval process
  • Consider whether childminding or becoming a nanny is the right career choice for you
  • Understand the next steps

 

Starting your Learning Journey

This webinar is for those registered to complete the Introduction to Homebased Childcare (IHC) unit with PACEY Cymru, including those who will go on to complete the Preparing for Childminding Practice (PCP). During the session we will offer tips and advice to support you to get started on your learning journey. There will be opportunities to ask questions, discuss good practice, and to take a look at what the learning platform has to offer.

Following the webinar, you will be able to:

  • Access the resources needed to start your course
  • Understand how to navigate the platform
  • Consider how to manage your time to meet your deadline
  • Understand the assessment criteria requirements
  • Know how and when to reference your work

Writing your policies and procedures

This is the first in our series of pre-registration support webinars. When you become a childminder in Wales, you need to register with the Care Inspectorate Wales (CIW). This webinar will help you write policies for your CIW application, or review what you’ve written following registration. As a childminder, you will need to be aware of the Regulations that are there and this webinar will provide an explanation of this.

Following this webinar you will be able to:

  • Have an understanding of the relevant information required in their Policies and Procedures to childminding settings in line with CIW regulations.
  • Have an understanding of how to use the guidance to register/update your service.

Statement of Purpose

This is the second in our series of pre-registration support webinars. When you register as a childminder in Wales, you need to write a Statement of Purpose, a personal statement about you and your childminding services. This session will help you write your Statement of Purpose, or review it if you’ve already registered.

Following this webinar you will be able to:

  • Identify the relevant information required in their Statement of Purpose
  • Prepare their Statement of Purpose using the PACEY Cymru and CIW guidance

Completing your CIW Application

This is the third in our series of pre-registration support webinars. This webinar is for childminders who want to apply to CIW to become a registered childminder in Wales and gives you an overview of the CIW Online Application Form. We will support you to use the National Minimum Standards, Regulations, and other information to complete the forms. We also support you with the paperwork involved in submitting an application.

Following this webinar you will be able to:

  • Identify the relevant information required in the CIW registration application
  • Prepare to complete your registration application using the PACEY Cymru and CIW guidance

We recommend you attend the Statement of Purpose and Writing your Policies and Procedures webinars before this.

Childminder Forum

Childminder Forum

PACEY Cymru invite you to book on and join our new monthly Childminder Forums. In this forum you will have the opportunity for updates, discuss queries, share good practice and on occasion hear from invited guest speakers.  We hope for these sessions to be informal and relaxed, and an opportunity to virtually connect with others.

Professional Practice (providing a quality childcare service) 

Steps to Safety - Risk assessment

Under the current COVID-19 restrictions there is an increased emphasis on the importance of risk assessments.

The aim of this webinar is for you to recognise the importance of risk assessment and to explore how effective risk assessments can be carried out and recorded, and how to start to complete effective risk assessment for your own settings.

Following this webinar you will be able to:

  • Describe what risk assessments are and identify the reasons why risk assessments are important
  • Consider the level of risk and actions which can be taken to minimise these
  • Consider differentiation of risk depending on children’s ages and stage of development

Completing your annual Quality of Care Review

This webinar is aimed at those of you preparing to complete your annual Quality of Care Review. It explores the benefits of self-assessment and the areas of childcare practice that you could include in your reports. Following this, you will understand how to complete your Quality of Care Review and plan priorities for improvement.

Following this webinar you will be able to:

  • Understand the importance of self-reflection
  • Reflect on areas of childcare practice in relation to the themes of the CIW Inspection Framework
  • Identify what information needs to be included in your Quality of Care Review

Preparing for Inspection

The aim of this webinar is to explore how registered childcare providers can prepare for their inspection, including opportunities to promote and evidence the quality of the setting during the process.  We will consider how using the CIW Inspection and Ratings Provider Guidance can support understanding of the ratings and improvement of quality in each theme of the Inspection Framework.

Following this webinar, you will be able to:

  • Understand CIW Inspection process and what to expect
  • Prepare for your CIW inspection
  • Identify how to evidence and promote the quality of your service
  • Understand the ratings and reflect on your practice

Continuous Professional Development

Supporting children's thinking

An introduction to supporting children’s thinking – part 1

This webinar will help to raise awareness of how you can support children’s thinking, including activities relating to task and focus, problem solving and development of imagination. There is a strong focus on well-being and self-regulation through sensitive interactions with others throughout the training. We will discuss how self-reflection and the interaction between adult and child can improve the quality of provision and the well-being of children that encourages inclines in the quality of care. 

Following this webinar you will be able to:

  • Understand what is meant by sustained shared thinking in terms of child development
  • Explore the use of sustained shared thinking in order to support emotional well-being of the child
  • Reflect on the opportunities provided within your setting

Supporting children’s thinking – part 2

This webinar follows on from the introduction to supporting children’s thinking where we will look at how to us the Sustained Shared Thinking and Emotional Well-being (SSTEW) Scale as a self-reflective Toolkit. We will talk you through the resource and provide scenarios to support good practice by looking at the five sub scales of SSTEW which include: (i) Building trust and confidence, (ii) Social and emotional well-being, (iii) Supporting and extending language and communication, (iv) Supporting learning and critical thinking, (v) Assessing learning and language. Throughout this workshop we will explain the concept of the SSTEW Scale Toolkit.

Following this webinar you will be able to:

  • Understand the purpose of the SSTEW Toolkit
  • Use SSTEW Scale as a self-reflective resource to enhance your professional development

My voice, my choice - Children's rights and participation

The aim of this webinar is to raise your awareness of how you can promote children’s rights and participate effectively with children in your care and their families. We will talk you through the many benefits, including for the children’s confidence & self-esteem as they grow into adults with the skills they have developed through participation.

Following this webinar you will be able to:

  • Define effective participation
  • Identify current good practice
  • Develop skills to collect evidence for CIW on the voice of children in your setting
  • Use the evidence to reflect on and improve your practice

Confident Communication - Assertiveness

Have you found it difficult to negotiate challenging conversations with families?

The aim of this webinar is to support you to improve your assertiveness and to encourage the use of strategies to help develop your self-esteem and confidence.  

Following this webinar you will be able to:

  • Understand the importance of self-image and self-esteem
  • Explore what is meant by assertiveness
  • Identify strategies to improve confident communication

Childcare Business Development

Growing my business - Business & Marketing

This webinar focuses on how to improve your business, providing you with support and guidance on how to operate the business side of your childcare service. You will have the opportunity to develop an understanding of the variety of factors which impact on the running and development of your service, including filling vacancies, managing finances, record keeping and reviewing policies and procedures. 

Following this webinar you will be able to:

  • Explore tools and strategies in marketing your childcare business
  • Understand record keeping requirements
  • Consider the financial planning and implications of running a professional business
  • Know where to seek advice and support from others

Newly Registered Support

This webinar is aimed at newly registered childminders who would like support, guidance or new ideas on developing your new childminding service. We hope this will provide an opportunity for you to ask questions and connect with other newly registered childminders and share your ideas.

Grant application support

The aim of this webinar is to support registered childcare providers to prepare a high quality grant application. We will consider how a grant can support your setting, the types of grants you can apply for, what to apply for and what support is available to you.

Following this webinar, you will be able to consider:

  • the grant application process
  • the information needed
  • how a grant can support your setting
  • how to prepare a successful grant application

Welsh Language Development

Welsh Language Support

This webinar is suitable for those with little or no Welsh language skills as well for those who wish to build on their confidence to use the language.

Looking for ways to introduce Welsh language in your daily routines and activities? Each 30 minute Welsh Language Development webinar offers vocabulary based on a different theme that you can use in your daily routine. You will also receive links to further resources following the webinar, along with individual telephone and email support to help you progress further. 

Following this webinar you will be able to:

  • Introduce Welsh language in everyday activities and routines on a specific theme to support children’s Welsh language development.
  • Reflect on current practice and identify sources of further training or support.

Additional Webinars from PACEY Cymru

Supporting Transitions

Starting in a new setting or school can be a ‘big thing’ for a child and their family. We know that any change for a child if handled well will support their resilience and future transitions in life, therefore the more information practitioners can share with the schools or other settings the better the partnership and outcomes are for the child. This webinar will talk you through the PACEY Cymru document which has been produced to support children’s transitions when moving between settings alongside a guide for its use. You will also receive links to further resources following the webinar, along with individual telephone and email support to help you progress further.

Following this webinar you will be able to:

  • Use the PACEY Cymru Transitions Document
  • Reflect on current practice and identify sources of further training or support

PACEY Cymru can deliver Webinars on a wide range of topics, we would be happy to discuss these with you.

 

Os ydych chi am drafod materion gofal plant pwysig mewn lleoliad cyfeillgar, cefnogol, cofrestrwch ar gyfer un o'n sesiynau rhyngweithiol ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal plant yng Nghymru.

Mae ein gweminarau yn sesiynau hyfforddi rhyngweithiol dan arweiniad tiwtor PACEY profiadol. Byddant yn eich tywys fel rhan o grŵp bach o weithwyr gofal plant proffesiynol, trwy'r sesiwn ar-lein.

Gall gweminarau PACEY Cymru eich helpu i gadw mewn cysylltiad, cael y wybodaeth ddiweddaraf a pharhau gyda’ch datblygiad proffesiynol o bell o gysur a diogelwch eich cartref.

Mae PACEY Cymru hefyd yn cynnig amrywiaeth o digwyddiadau i gefnogi gweithwyr gofal plant proffesiynol sydd am wella eu gwybodaeth a’u harferion.

Dyma beth oedd gan un aelod diweddar i'w ddweud am ei phrofiad gweminar:

"Fy mhryderon am weminar oedd na fyddai fel gweithdy wyneb yn wyneb, ond rwyf wedi darganfod nad yw hynny'n wir. Fe wnaethon ni ryngweithio yn union yr un ffordd gyda'r cyfleustra o beidio â gorfod gyrru i leoliad. (gwarchodwr plant, Cymru)

Gweminarau sydd ar ddod yng Nghymru

Math o weminar Dyddiad Amser Dolen archebu
  Rhagfyr    
Dechrau'ch Taith Dysgu 6 Rhagfyr 10-11yb Archebwch yma
Datganiad o Ddiben 6 Rhagfyr 1-2yp Archebwch yma
Sesiwn Friffio 11 Rhagfyr 7-8yp Archebwch yma
Cwblhau eich Cais AGC 15 Rhagfyr 1-2yp Archebwch yma
  Ionawr 2024    

Cymorth Iaith Cymraeg *

10 Ionawr 6.30-7yp Archebwch yma
PACEY Live - Cyd-feddwl Parhaus
a Lles Emosiynol *
11 Ionawr 7-8yp Archebwch yma

Cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal blynyddol *  

16 Ionawr 6.30-8yp Archebwch yma

Mae pob gweminar uchod am ddim.
* Mae’r gweminarau hyn am ddim i aelodau`Practioner' PACEY yng Nghymru.

Cymryd rhan mwen Gweminar

Mae cymryd rhan mewn gweminar PACEY yn ffordd wych o drafod eich meddyliau ag eraill a gofyn cwestiynau i'n tiwtoriaid arbenigol. Mae gweminarau yn rhedeg gyda'r nos i’ch helpu i drefnu hyfforddiant o amgylch eich diwrnod gwaith prysur.

Mae pob gweminar rydych chi'n cymryd rhan ynddo yn mynd tuag at eich oriau datblygiad proffesiynol parhaus, sy'n rhan bwysig o'ch ymrwymiad i fod yn aelod o PACEY. 

Sut i gadw lle

Cofrestrwch ymlaen llaw trwy glicio ar y ddolen archebu uchod, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, ffoniwch PACEY Cymru ar 02920 351407. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Y tu allan i'r amseroedd hyn, anfonwch e-bost at paceycymru@pacey.org.uk ac fe ddown yn ôl atoch chi.

Ddim yn gallu dod o hyd i'r hyfforddiant rydych chi'n chwilio amdano? Edrychwch ar ein gweithdai ac digwyddiadau, neu a oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer gweminarau yn y dyfodol? Cysylltwch â ni, Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae'r gweminarau hyn wedi'u datblygu'n benodol i gefnogi'ch ymarfer yng Nghymru ac mae rhestr o'r holl ddisgrifiadau gweminar i'w gweld isod. 

Gweminarau gan ddarparwyr eraill

Mae CThEM yn rhedeg dau weminar am ddim ar gyfer gwarchodwyr plant yng Nghymru a Lloegr:

 

Cyn-gofrestru

Sesiynau briffio

Pam dewis bod yn warchodwr plant cofrestredig neu nani gymeradwy?

Os ydych chi’n frwd ynglŷn â rhoi’r dechrau gorau posib i fywyd i blant a hoffech gael gyrfa sy’n gweddu i’ch ymrwymiadau teuluol, yna gallai gyrfa fel gwarchodwr plant cofrestredig fod yn ddelfrydol i chi. Mae’r gweithdy hwn yn amlinellu manteision dod yn warchodwr plant, a sut y gallwch feithrin eich sgiliau a datblygu busnes wrth gefnogi plant a theuluoedd yn eich cymuned leol.

Bydd y weminar hwn yn egluro rolau gwarchodwr plant cofrestredig a nani gymeradwy, yn ogystal â’ch galluogi i wneud y canlynol:

  • Deall y broses gofrestru neu gymeradwyo
  • Ystyried ai gwarchod plant neu ddod yn nani yw’r dewis gyrfa cywir i chi
  • Deall y camau nesaf

 

Dechrau'ch Taith Dysgu

Mae'r weminar hon ar gyfer y rhai sydd wedi cofrestru i gwblhau'r uned Cyflwyniad i Ofal Plant yn y Cartref (IHC) gyda PACEY Cymru, gan gynnwys y rhai a fydd yn mynd ymlaen i gwblhau Paratoi ar gyfer Ymarfer Gwarchod Plant (PCP). Yn ystod y sesiwn byddwn yn cynnig awgrymiadau a chymorth i'ch helpu i gychwyn ar eich taith dysgu. Bydd cyfleoedd i ofyn cwestiynau, trafod arfer da, a bwrw golwg ar yr hyn sydd gan y platfform dysgu i'w gynnig.

Ar ôl y weminar, byddwch yn gallu:

  • Cyrchu'r adnoddau sydd eu hangen i ddechrau'ch cwrs
  • Deall sut i lywio'r platfform
  • Ystyried sut i reoli'ch amser i gwrdd â'r dyddiad cau
  • Deall gofynion y meini prawf asesu
  • Gwybod sut a phryd i gyfeirnodi'ch gwaith

Ysgrifennu eich polisïau a'ch gweithdrefnau

Dyma'r cyntaf yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Pan ddewch yn warchodwr plant yng Nghymru, mae angen i chi gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i ysgrifennu polisïau ar gyfer eich cais AGC, neu adolygu'r hyn rydych wedi'i ysgrifennu ar ôl cofrestru. Fel gwarchodwr plant, bydd angen i chi fod yn ymwybodol o'r Rheoliadau sydd yno a bydd y gweminar hwn yn rhoi esboniad o hyn.

Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:

  • Deall gwybodaeth berthnasol sy'n ofynnol yn eu Polisïau a'u Gweithdrefnau i leoliadau gwarchod plant yn unol â rheoliadau AGC.
  • Deall sut i ddefnyddio'r canllawiau i gofrestru/diweddaru eich gwasanaeth.

Datganiad o Ddiben

Dyma’r ail yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Pan fyddwch chi'n cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru, mae angen i chi ysgrifennu Datganiad o Ddiben, datganiad personol amdanoch chi a'ch gwasanaethau gwarchod plant. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ysgrifennu eich Datganiad o Ddiben, neu ei adolygu os ydych chi eisoes wedi cofrestru.

Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:

  • Nodi'r wybodaeth berthnasol sy'n ofynnol yn eu Datganiad o Ddiben
  • Paratoi eu Datganiad o Ddiben gan ddefnyddio canllaw PACEY Cymru ac AGC

Cwblhau eich Cais AGC

Dyma'r drydedd yn yn ein cyfres o weminarau cymorth cyn cofrestru. Mae'r gweminar hon ar gyfer warchodwyr plant sydd am wneud cais i AGC i fod yn warchodwr plant cofrestredig yng Nghymru ac mae'n rhoi trosolwg i chi o ffurflen gais AGC ar-lein. Byddwn yn eich cefnogi i ddefnyddio'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol, Rheoliadau, a gwybodaeth arall i lenwi'r ffurflenni

Yn dilyn y sesiwn hon, byddwch yn gallu:

  • Adnabod y wybodaeth berthnasol sydd yn ofynnol o gais cofrestru AGC
  • Paratoi i gwblhau’ch cais cofrestru gan ddefnyddio canllawiau PACEY Cymru ac AGC

Rydym yn argymell eich bod yn mynychu'r gweminarau Datganiad o Ddiben ac Ysgrifennu’ch Polisïau a Gweithdrefnau cyn hyn.

Fforwm gwarchodwyr plant

Fforwm gwarchodwyr plant

Mae PACEY Cymru yn eich gwahodd i gadw lle ar ein Fforymau Gwarchodwyr Plant misol newydd. Yn y fforwm hwn cewch gyfle i gael diweddariadau, trafod ymholiadau, rhannu arferion da ac, ar adegau, clywed gan siaradwyr gwadd. Ein gobaith yw cadw’r sesiynau hyn yn anffurfiol ac yn hamddenol, gan roi’r cyfle i bobl gysylltu ag eraill yn rhithiol.

Arfer Proffesiynol (darparu gwasanaeth gwarchod plant o safon)

Camau at Ddiogelwch - Asesiadau Risg

Dan y cyfyngiadau COVID-19 presennol mae mwy o bwyslais ar bwysigrwydd asesiadau risg.

Nod y weminar hwn yw eich helpu i gydnabod pwysigrwydd asesiadau risg ac archwilio sut mae cyflawni asesiadau risg effeithiol a’u cofnodi, a sut mae dechrau cwblhau asesiad risg effeithiol ar gyfer eich lleoliadau eich hun.

Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:

  • Disgrifio beth yw asesiadau risg a nodi’r rhesymau pam eu bod nhw’n bwysig
  • Ystyried lefelau risgiau a’r camau y gellir eu cymryd i leihau’r rhain
  • Ystyried gwahaniaethu risgiau yn dibynnu ar oedran plant a’u cam datblygu

Cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal blynyddol

Mae’r weminar hwn wedi’i dargedu at y rheiny sy’n paratoi i gwblhau eu Hadolygiad Ansawdd Gofal blynyddol. Mae’n edrych ar fanteision hunanasesu a’r meysydd o arfer gofal plant y gallech eu cynnwys yn eich adroddiadau. Yn dilyn hwn, byddwch yn deall sut mae cwblhau eich Adolygiad Ansawdd Gofal a chynllunio blaenoriaethau i’w gwella.

Yn dilyn y weminar hwn byddwch yn gallu:

  • Deall pwysigrwydd hunan-fyfyrio
  • Myfyrio ar feysydd o arfer gofal plant mewn perthynas â themâu Fframwaith Arolygu AGC
  •  Gwybod pa wybodaeth sydd angen ei chynnwys yn eich Adolygiad Ansawdd Gofal.

Paratoi ar gyfer arolwg

Nod y weminar hon yw archwilio sut y gall darparwyr gofal plant cofrestredig baratoi ar gyfer eu harolwg, gan gynnwys cyfleoedd i hyrwyddo a thystiolaethu ansawdd y lleoliad yn ystod y broses.  Byddwn yn archwilio sut y gall defnyddio Canllawiau Darparwyr Arolygu a Sgorio AGC gefnogi dealltwriaeth o raddfeydd a gwella ansawdd ym mhob thema o'r Fframwaith Arolygu.

Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:

  • Deall proses arolygu’r AGC a’r hyn i’w ddisgwyl
  • Paratoi ar gyfer eich arolwg AGC
  • Adnabod sut i dystiolaethu a hyrwyddo ansawdd eich gwasanaeth
  • Deall y sgôr a myfyrio ar eich ymarfer

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Cyflwyniad i gefnogi meddwl plant

Cyflwyniad i gynorthwyo plant i feddwl - Rhan 1

Bydd y weminar yma yn eich helpu i godi ymwybyddiaeth o sut y gallwch gefnogi meddwl plant, gan gynnwys gweithgareddau sy'n ymwneud â thasg a ffocws, datrys problemau a datblygu’r dychymyg. Mae ffocws cryf ar lesiant a hunanreoleiddio trwy ryngweithio sensitif ag eraill trwy gydol yr hyfforddiant. Byddwn yn trafod sut y gall hunan-fyfyrio a'r rhyngweithio rhwng oedolyn a phlentyn wella ansawdd y ddarpariaeth a lles plant sy'n annog cynnydd yn ansawdd y gofal.

Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:

  • Deall beth yw ystyr meddwl ar y cyd parhaus o ran datblygiad plant
  • Archwilio'r defnydd o feddwl ar y cyd parhaus er mwyn cefnogi lles emosiynol y plentyn
  • Myfyriwch ar y cyfleoedd a ddarperir yn eich lleoliad

Cynorthwyo plant i feddwl  - Rhan 2

Mae'r weminar hon yn dilyn ymlaen o'r cyflwyniad i gefnogi meddwl plant lle byddwn yn edrych ar sut i ddefnyddio'r Meddwl Cyson a Rennir a Lles Emosiynol (SSTEW) fel Pecyn Cymorth hunan-fyfyriol. Wnawn eich tywys drwy'r adnodd a darparu senarios i gefnogi arfer da trwy edrych ar bump is-raddfa SSTEW sy'n cynnwys: (i) Adeiladu ymddiriedaeth a hyder, (ii) Lles cymdeithasol ac emosiynol, (iii) Cefnogi ac ymestyn iaith a chyfathrebu, (iv) Cefnogi dysgu a meddwl yn feirniadol, (v) Asesu dysgu ac iaith. Trwy gydol y gweithdy hwn byddwn yn egluro cysyniad Pecyn Cymorth Graddfa SSTEW.

Yn dilyn y weminar hon byddwch yn gallu:

  • Deall pwrpas Pecyn Cymorth SSTEW
  • Defnyddiwch Raddfa SSTEW fel adnodd hunan-fyfyriol i wella'ch datblygiad proffesiynol

Fy llais, Fy newis - Hawliau plant a chyfranogi

Nod y gweithdy hwn yw eich gwneud yn fwy ymwybodol o sut mae hyrwyddo hawliau plant a chyfranogi yn effeithiol gyda phlant yn eich gofal a’u teuluoedd. Byddwn yn egluro’r manteision amrywiol, gan gynnwys er lles hyder a hunan-barch y plant wrth iddynt dyfu’n oedolion gyda’r sgiliau y maen nhw wedi’u datblygu drwy gyfranogi.

Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:

Diffinio cyfranogiad effeithiol

  • Adnabod arfer da cyfredol
  • Datblygu sgiliau i gasglu tystiolaeth ar gyfer AGC o ran llais plant yn eich lleoliad
  • Defnyddio’r dystiolaeth i fyfyrio a gwella eich arfer chi

Cyfathrebu Hyderus - Pendantrwydd

A ydych chi wedi’i chael hi’n anodd cynnal sgyrsiau heriol gyda theuluoedd? Nod y weminar hwn yw eich cefnogi i ddod yn fwy pendant ac i’ch annog i ddefnyddio strategaethau i helpu i wella eich hunan-barch a hyder. 

Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:

  • Deall pwysigrwydd hunanddelwedd a hunan-barch
  • Deall beth mae pendantrwydd yn ei olygu
  • Nodi strategaethau i gyfathrebu’n fwy hyderus

Datblygu Busnes Gofal Plant

Tyfu fy musnes

Mae’r weminar hwn yn canolbwyntio ar sut mae gwella eich busnes, gan roi cymorth ac arweiniad i chi ynghylch gweithredu elfen fusnes o’ch gwasanaeth gofal plant. Bydd gennych gyfle i wella eich dealltwriaeth o amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar y modd rydych chi’n cynnal ac yn datblygu eich gwasanaeth, gan gynnwys llenwi swyddi gwag, rheoli eich arian, cadw cofnodion ac adolygu polisïau a gweithdrefnau.

Yn dilyn y weminar hwn, byddwch yn gallu:

  • Edrych ar offer a strategaethau i farchnata eich busnes gofal plant
  • Deall gofynion cadw cofnodion
  • Ystyried cynllunio ariannol a goblygiadau cynnal busnes proffesiynol
  • Gwybod ble i gael cyngor a chefnogaeth gan eraill

Cymorth i'r Rhai Sydd Newydd Gofrestru

Mae'r weminar hon wedi'i hanelu at warchodwyr plant sydd newydd gofrestru a fyddai’n hoffi cymorth, arweiniad neu syniadau newydd ar ddatblygu eich gwasanaeth gwarchod plant newydd. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhoi cyfle ichi ofyn cwestiynau a chysylltu â gwarchodwyr plant eraill sydd newydd gofrestru a rhannu eich syniadau.

Cymorth ymgeisio am grant

Nod y gweminar yw cefnogi darparwyr gofal plant cofrestredig i baratoi cais grant o safon uchel. Byddwn yn ystyried sut gall grant gefnogi'ch lleoliad, y mathau o grant y gallwch ymgeisio ar eu cyfer, beth i ymgeisio ar ei gyfer a pha gymorth sydd ar gael i chi.

Yn dilyn y gweminar, byddwch yn gallu ystyried:

  • y broses ymgeisio am grant
  • y wybodaeth sydd ei hangen
  • sut gall grant gefnogi'ch lleoliad
  • sut i baratoi cais grant llwyddiannus

Datblygiad Iaith Cymraeg

Cymorth Iaith Cymraeg

Chwilio am ffyrdd i gyflwyno Cymraeg yn eich arferion a'ch gweithgareddau beunyddiol? Mae pob gweminar Datblygu Iaith Cymraeg 30 munud yn cynnig geirfa yn seiliedig ar thema wahanol y gallwch ei defnyddio yn eich trefn ddyddiol. Byddwch hefyd yn derbyn dolenni i adnoddau pellach yn dilyn y gweminar, ynghyd â chymorth ffôn ac e-bost unigol i'ch helpu i symud ymlaen ymhellach. Mae'r gweminar yn addas i'r rhai sydd ag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg hefyd ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu hyder i ddefnyddio'r iaith.

Yn dilyn y gweminar hwn, byddwch yn gallu:

  • Cyflwyno Cymraeg mewn gweithgareddau ac arferion bob dydd ar thema benodol i gefnogi datblygiad Cymraeg plant
  • Myfyrio ar arfer presennol a nodi ffynonellau hyfforddiant neu gefnogaeth bellach

Gweminarau Ychwanegol gan PACEY Cymru

Cefnogi Trawsnewidiadau

Gall cychwyn mewn lleoliad neu ysgol newydd fod yn ‘beth mawr’ i blentyn a’i deulu. Rydym yn gwybod y bydd unrhyw newid i blentyn os caiff ei drin yn dda yn cefnogi ei wytnwch a'i drawsnewidiadau mewn bywyd yn y dyfodol, felly po fwyaf o wybodaeth y gall ymarferwyr ei rhannu gyda'r ysgolion neu leoliadau eraill, y gorau yw'r bartneriaeth a'r canlyniadau i'r plentyn. Bydd y weminar hon yn eich trafod trwy'r ddogfen PACEY Cymru sydd wedi'i chynhyrchu i gefnogi trawsnewidiadau plant wrth symud rhwng lleoliadau ochr yn ochr â chanllaw i'w defnyddio. Byddwch hefyd yn derbyn dolenni i adnoddau pellach yn dilyn y weminar, ynghyd â chymorth ffôn ac e-bost unigol i'ch helpu i symud ymlaen ymhellach.

Yn dilyn y weminar hon, byddwch yn gallu:

  •  Defnyddio Dogfen Pontio PACEY Cymru
  •  Myfyrio ar arfer cyfredol a nodi ffynonellau hyfforddiant neu gefnogaeth bellach

Gall PACEY Cymru gyflwyno Gweminarau ar ystod eang o bynciau, byddem yn hapus i drafod y rhain gyda chi.