Social Care Wales/Gofal Cymdeithasol Cymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  Read this in Welsh here.

Social Care Wales aims to raise the quality of care and support in Wales, so that people’s lives can be improved.  They aim to achieve this by building confidence in the workforce and leading and supporting improvements in social care.

To do this, they work with people who use care and support and a broad range of organisations including PACEY Cymru.

Social Care Wales has functions related to the childcare and early years workforce. Their work means they: 

  • set standards for the care and support workforce, making them accountable for their work
  • develop the workforce so they have the knowledge and skills to protect, empower and support those who need help
  • work with others to improve services for areas agreed as a national priority
  • share good practice with the workforce so they can provide the best response
  • set priorities for research to get evidence of what works well
  • provide information for the public and other organisations

Social Care Wales work closely with Qualifications Wales, the qualifications regulator, to ensure qualifications for the childcare and early years sector are fit for purpose. CIW, as the regulator of childcare in Wales, work closely with Social Care Wales to ensure a consistent approach to qualification requirements for those managing or working in regulated services.

Qualifications required

The link to the Qualification Framework for Early Years and Childcare in Wales helps those who work in the sector, want to employ somebody in the sector or anybody else who may need to know about early years and childcare qualifications, understand what qualifications they will need to work in the early years and childcare sector in Wales.

This list should be used alongside the qualification list produced by Skills Active, the Sector Skills Council for playworkers and referring to standards and regulations stipulated by Care Inspectorate Wales (CIW).

How do PACEY Cymru work with Social Care Wales?

PACEY Cymru works closely with Social Care Wales to support development of qualifications, units and other work. This has included:

  • Development of draft content for new qualifications in Wales including the new units required to register as a childminder in Wales
  • Review of the List of Required Qualifications for Early years and Childcare in Wales
  • Key member of the Qualifications and Standards Advisory Group (QSAG)Sub-Committee and the Early Years and Childcare Workforce Development Network

Have any queries?

Please contact PACEY Cymru on paceycymru@pacey.org.uk or 02920 351407.

Nod Gofal Cymdeithasol Cymru yw gwella ansawdd gofal a chymorth yng Nghymru er mwyn gwella bywydau pobl.  Ei nod yw cyflawni hyn drwy fagu hyder yn y gweithlu ac arwain a chefnogi gwelliant ym maes gofal cymdeithasol.

Er mwyn gwneud hyn, mae’n gweithio gyda phobl sy’n defnyddio gofal a chymorth ac ystod eang o sefydliadau gan gynnwys PACEY Cymru.

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru swyddogaethau sy’n gysylltiedig â’r gweithlu gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Mae ei waith yn golygu ei fod yn: 

  • gosod safonau ar gyfer y gweithlu gofal a chymorth, gan eu gwneud yn atebol am eu gwaith
  • datblygu’r gweithlu fel bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau i amddiffyn, grymuso a chefnogi’r rhai y mae angen help arnynt
  • gweithio gydag eraill i wella gwasanaethau ar gyfer meysydd y cytunwyd arnynt fel blaenoriaeth genedlaethol
  • rhannu arfer da gyda’r gweithlu fel y gallant ddarparu’r ymateb gorau
  • gosod blaenoriaethau ar gyfer gwaith ymchwil i gael tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio’n dda
  • rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd a sefydliadau eraill

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru, y rheoleiddiwr cymwysterau, i sicrhau bod cymwysterau’r sector gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yn addas at eu diben. Mae AGC, fel rheoleiddiwr gofal plant yng Nghymru, yn gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i sicrhau dull cyson o ran gofynion cymhwyso ar gyfer y rhai sy’n rheoli neu’n gweithio yn y gwasanaethau rheoledig.

Cymwysterau gofynnol

Mae’r ddolen i’r Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru yn helpu pobl sy’n gweithio yn y sector, pobl sydd am gyflogi rhywun yn y sector neu bobl eraill y gallai fod angen iddynt wybod am gymwysterau’r blynyddoedd cynnar a gofal plant, i ddeall pa gymwysterau y bydd eu hangen arnynt i weithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Dylid defnyddio’r rhestr ar y cyd â’r rhestr o gymwysterau a gynhyrchir gan Skills Active, Cyngor Sgiliau’r Sector ar gyfer gweithwyr chwarae ac wrth gyfeirio at safonau a rheoliadau a nodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Sut mae PACEY Cymru yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru?

Mae PACEY Cymru yn gweithio’n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cymwysterau, unedau a gwaith arall. Mae hyn wedi cynnwys:

  • Datblygu cynnwys drafft ar gyfer cymwysterau newydd yng Nghymru, gan gynnwys yr unedau newydd sydd eu hangen i gofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru
  • Adolygu’r Rhestr o Gymwysterau Gofynnol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru
  • Bod yn aelod allweddol o Is-bwyllgor Grŵp Ymgynghori ar Gymwysterau a Safonau (QSAG) a’r Rhwydwaith Datblygu Gweithlu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Unrhyw gwestiwn?

Cysylltwch â PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351407.