Being a nanny in Wales / Bod yn Nani yng Nghymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. Read this in Welsh here.

CIW Approval as a nanny

Being approved helps you demonstrate to parents your commitment to the care of their children to the highest possible standards. It also allows parents to receive financial assistance through a range of UK Government tax and benefits concessions such as Tax Credits, Universal Credit and Tax-Free Childcare, where they are eligible.  That's why we recommend that nannies in Wales join the Approval of Home Childcare Providers Scheme.

Safeguarding practice

Those working as a nanny in Wales should also be aware of the Working Together to Safeguard People:  Code of Safeguarding Practice for individuals, groups and organisations offering activities or services  to children and adults in Wales.  Though nannies are not registered in Wales in the same way as other childcare and play providers it is important for them to understand the importance of having safeguarding arrangements in place to make sure that nobody is put at risk of harm.

Training

If you want to deliver your best as a nanny, then training is essential. Before joining PACEY, you'll need to have taken introductory training in home-based childcare. 

PACEY offers pre-registration training for home-based childcare in Wales, which includes Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC). It is PACEY's recommended preparatory course for prospective and new nannies in Wales. For further information please contact the PACEY Cymru office at paceycymru@pacey.org.uk or 02920 351 407.

PACEY also offers

PACEY Cymru's 5-step process to nanny approval in Wales

Step 1

Check that you have a unit or qualification on Social Care Wales’ Qualification Framework.  If you do not have a relevant unit or qualification PACEY Cymru delivers training that meets the requirements in Wales through the Introduction to home-based childcare unit.

Step 2

Complete a relevant paediatric first-aid course.  PACEY Cymru’s partner Proactive First Aid delivers training in Wales.

Step 3

Join PACEY for both membership and insurance - available to pay in 4 monthly instalments.

Step 4

Apply to CIW to join the approval scheme - because you've joined PACEY you can sign the declaration on the application form saying that you hold public liability insurance.  CIW will contact you in relation to any Disclosure and Barring Service (DBS) check required.

Step 5

Let us know your approval number as soon as this is provided by CIW so we can update your insurance. You'll be able to access your PACEY membership benefits shortly after joining.

Cymeradwyaeth AGC i fod yn nani

Mae cael eich cymeradwyo yn eich helpu i ddangos i rieni eich ymrwymiad i ofal eu plant i’r safonau uchaf posib. Mae hefyd yn caniatau i rieni dderbyn cymorth ariannol drwy ystod o gonsesiynau treth a budd-daliadau Llywodraeth y DU, megis Credydau Treth, Credyd Cynhwysol, a Gofal Plant Di-dreth, os ydynt yn gymwys.  Dyna pam ein bod yn argymell bod nanis yng Nghymru’n ymuno â’r Cynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref.

Ymarfer diogelu

Dylai’r rhai sy’n gweithio fel nani yng Nghymru hefyd fod yn ymwybodol o’r Gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu pobl: Cod ymarfer diogelu ar gyfer unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru. Er nad yw nanis wedi'u cofrestru yng Nghymru yn yr un ffordd â darparwyr gofal plant a chwarae eraill, mae'n bwysig iddynt ddeall yr angen i gael trefniadau diogelu ar waith i sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu risg o niwed.

Hyfforddiant

Os dymunwch gael y sgiliau gorau posibl ar gyfer bod yn nani, mae hyfforddiant yn hanfodol. Cyn ymuno â PACEY, bydd angen i chi fod wedi dilyn hyfforddiant rhagarweiniol mewn gofal plant yn y cartref.

Mae PACEY yn cynnig cwrs hyfforddi mewn gofal plant yn y cartref.  Enw'r uned yw "Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (CGPC)". Dyma’r cwrs paratoadol a argymhellir gan PACEY ar gyfer darpar nanis a nanis newydd yng Nghymru. Darganfyddwch fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i archebu, yma. Am mwy o wybodaeth am y cyrsiau gofal plant yn y cartref newydd, cysylltwch â swyddfa PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351 407.

Mae PACEY hefyd yn cynnig

Proses 5 cam PACEY Cymru at gymeradwyaeth nani yng Nghymru

Cam 1

Gwiriwch fod gennych uned neu gymhwyster ar Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru.  Os nad oes gennych uned neu gymhwyster perthnasol, mae PACEY Cymru’n darparu hyfforddiant sy’n bodloni’r gofynion yng Nghymru drwy’r uned Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref.

Cam 2

Cwblhewch gwrs cymorth cyntaf pediatrig perthnasol.  Mae partner PACEY Cymru Proactive First Aid yn darparu hyfforddiant yng Nghymru.

Cam 3

Ymunwch â PACEY am aelodaeth ac yswiriant - gellir talu mewn 12 rhandaliad misol.

Cam 4

Ymgeisiwch i AGC i ymuno â’r cynllun cymeradwyo - oherwydd eich bod wedi ymuno â PACEY gallwch arwyddo’r datganiad ar y ffurflen gais i ddweud bod gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.  Bydd AGC yn cysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw archwiliad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) sydd ei angen.

Cam 5

Rhowch wybod i ni am eich rhif cymeradwyo unwaith i AGC ei ddarparu er mwyn i ni ddiweddaru’ch yswiriant. Byddwch yn gallu cyrchu’ch buddion aelodaeth PACEY yn fuan ar ôl ymuno.