Home-based childcare training in Wales / Hyfforddiant gofal plant yn y cartref yng Nghymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma. 

PACEY provides introductory training in home-based childcare for childcarers in Wales.

There are two different packages of training available, one for those looking to register as a childminder in Wales and one for nannies in Wales:  

Nanny approval training package comprises of Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC).

Childminder pre-registration training package comprises of Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC), and Unit 327 Preparing for childminder practice (PCP).

Before this course, if you are looking to register as a childminder, you need to attend a briefing session.

Accessing the training

The first thing to do is to attend a briefing session. These are available either through PACEY or through your local authority. Contact PACEY Cymru on 02920 351407 or email paceycymru@pacey.org.uk to find out more about your individual local authority’s position. Some local authorities will also fund you to complete the pre-registration training course and we can also give you information on funding available. Once these points have been confirmed we can guide you through the process of enrolling onto a course.

Course delivery

The training is delivered either online, or as a blended learning course which combines face-to-face (classroom based) learning with online learning, whichever suits you best.

For both the online and blended training options, there will be course content accessed through e-learning, so you will need access to a computer, and some basic computer skills, to complete the course. You can view your training on or offline on an Apple or Android handheld device (a phone or tablet), but you will need access to a PC or laptop in order to upload your written portfolio to the e-learning platform as Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC) is assessed through a portfolio of work.

The blended course includes online learning, with face-to-face learning delivered over a number of sessions - ideal for groups of new and prospective childcare practitioners in a local authority.  PACEY can deliver the course on behalf of local authorities so remember to contact your local PACEY staff member or your local authority early years team to find out if funding is available for the training.

All leaners will receive six months’ free PACEY learner membership.  This includes access to resources through the members area on the PACEY Website to support around completion of the course.

The course is designed to be flexible and to allow you to combine a qualification whilst balancing work commitments and family life.  

Timescales for completion 

You should be able to complete your training package within three months, but in order to give you plenty of time to research and complete the assessment tasks, you will have access to your training, and the support of your expert assessor, along with learner membership of PACEY, for six months from the date of purchase.

Course content and cost 

Nanny approval training package comprises of Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC).  

Childminder pre-registration training package comprises of Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC), and Unit 327 Preparing for childminder practice (PCP).

Unit 326 Introduction to home-based childcare (IHC) will cover:

  • Legislation, national policies, guidance and regulatory frameworks requirements for homebased childcare
  • Working in partnership with families/carers in homebased childcare
  • Health and well-being in homebased childcare
  • Routines, changes and transitions in homebased childcare
  • Holistic development of children in homebased childcare 
  • Welsh language and culture 
  • Professional practice in homebased childcare

Assessment will be by a portfolio of written evidence to be submitted to the e-learning platform.

Unit 327 Preparing for childminder practice (PCP) will cover:

  • Registering as a childminder in Wales
  • Professional practice in childminding
  • Health and well-being in a childminding setting 
  • Effective business planning for a childminding service

Assessment will be by a professional discussion based on a portfolio of work being completed to support registration as a childminder in Wales.

How much does it cost?

Nanny approval training package

Blended Learning £210 inc VAT

Online Learning £180 inc VAT

Childminder pre-registration training package

Blended Learning £390 inc VAT

Online Learning £360 inc VAT

For further information please contact the PACEY Cymru office at paceycymru@pacey.org.uk or 02920 351 407.

 

Mae PACEY yn cynnig hyfforddiant rhagarweiniol gofal plant yn y cartref ar gyfer gwarchodwyr plant yng Nghymru.

Mae dau becyn hyfforddiant gwahanol ar gael, un i’r rheini sy’n bwriadu cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru ac un ar gyfer nanis yng Nghymru:

Pecyn hyfforddiant cymeradwyo nani sy’n cynnwys Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC). 

Pecyn hyfforddi cyn-gofrestru i warchodwyr plant sy’n cynnwys Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC) ac Uned 327 Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP).

Cyn y cwrs hwn, os ydych chi’n bwriadu cofrestru fel gwarchodwr plant, mae angen i chi fynychu sesiwn briffio.

Mynediad at hyfforddiant

Y peth cyntaf i’w wneud yw mynychu sesiwn briffio. Mae’r rhain ar gael naill ai trwy PACEY neu trwy’ch awdurdod lleol. Cysylltwch â PACEY Cymru ar 02920 351407 neu anfon e-bost at paceycymru@pacey.org.uk i gael gwybod mwy am sefyllfa eich awdurdod lleol unigol. Bydd rhai awdurdodau lleol hefyd yn eich ariannu chi i gwblhau’r cwrs hyfforddi cyn-gofrestru a gallwn hefyd roi gwybodaeth i chi am yr ariannu sydd ar gael. Unwaith y mae’r pwyntiau hyn wedi’u cadarnhau gallwn eich tywys chi trwy’r broses o gofrestru ar gwrs.

Cyflenwi'r cwrs

Cyflwynir yr hyfforddiant naill ai ar-lein, neu fel cwrs dysgu cyfunedig sy'n cyfuno dysgu wyneb yn wyneb (yn yr ystafell ddosbarth) â dysgu ar-lein, beth bynnag sy'n fwyaf addas i chi.

Ar gyfer yr opsiynau hyfforddi ar-lein a chymysg, bydd modd cael mynediad at gynnwys cwrs trwy e-ddysgu, felly byddwch chi angen mynediad at gyfrifiadur, ac ychydig sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol, i gwblhau’r cwrs. Gallwch weld eich hyfforddiant ar neu all-lein ar ddyfais llaw Apple neu Android (ffôn neu tabled), ond bydd angen mynediad at gyfrifiadur neu liniadur er mwyn uwchlwytho'ch portffolio ysgrifenedig i'r platfform e-ddysgu gan fod Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC) yn cael ei asesu trwy bortffolio o waith.
 

Mae’r cwrs cymysg yn cynnwys dysgu ar-lein, gyda dysgu wyneb yn wyneb yn cael ei gyflenwi dros nifer o sesiynau – yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau o ddarpar ymarferwyr gofal plant a rhai newydd o fewn awdurdod lleol. Gall PACEY gyflenwi’r cwrs ar ran awdurdodau lleol felly cofiwch gysylltu â’ch aelod staff PACEY lleol neu dîm blynyddoedd cynnar eich awdurdod lleol i weld a oes ariannu ar gael ar gyfer yr hyfforddiant.

Bydd yr holl ddysgwyr yn derbyn aelodaeth dysgwr PACEY am ddim am chwe mis. Mae hyn yn cynnwys mynediad at adnoddau trwy’r ardal aelodau ar Wefan PACEY i gefnogi cwblhau’r cwrs.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac i ganiatáu i chi gyfuno hyfforddiant wrth gydbwyso ymrwymiadau gwaith a bywyd teuluol. 

Graddfeydd amser ar gyfer cwblhau 

Er mwyn rhoi digon o amser i chi ymgymryd â dysgu a datblygu a chwblhau’r tasgau asesu, bydd gennych fynediad at eich hyfforddiant, a chefnogaeth eich aseswr arbenigol, ynghyd ag aelodaeth dysgwr PACEY, am chwe mis o’r dyddiad prynu. 

Cynnwys y cwrs a’r gost

Pecyn hyfforddiant cymeradwyo nani sy’n cynnwys Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC). 

Pecyn hyfforddi cyn-gofrestru i warchodwyr plant sy’n cynnwys Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC) ac Uned 327 Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP).

Bydd Uned 326 Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref (IHC) yn ymdrin â:

  • Gofynion deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, canllawiau a fframweithiau rheoleiddio ar gyfer gofal plant yn y cartref
  • Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd/gofalwyr ym maes gofal plant yn y cartref
  • Iechyd a llesiant ym maes gofal plant yn y cartref 
  • Arferion, newidiadau a chyfnodau trawsnewid ym maes gofal plant yn y cartref 
  • Datblygiad cyfannol plant mewn gofal plant yn y cartref
  • Y Gymraeg a diwylliant Cymru 
  • Ymarfer proffesiynol ym maes gofal plant yn y cartref 
Bydd angen cyflwyno asesiad yn ôl portffolio o dasgau asesu ysgrifenedig i’r llwyfan e-ddysgu ar-lein.
 
Bydd Uned 327 Paratoi ar gyfer ymarfer ym maes gwarchod plant (PCP):
 
  • Cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru
  • Ymarfer proffesiynol ym maes gwarchod plant
  • Iechyd a llesiant mewn lleoliad gwarchod plant
  • Gwaith cynllunio busnes effeithiol ar gyfer gwasanaeth gwarchod plant  

Bydd yr asesiad trwy drafodaeth broffesiynol ar sail portffolio o waith yn cael ei gwblhau i gefnogi cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru.

Faint y mae’n costio?

Pecyn hyfforddiant cymeradwyo nani 

Dysgu Cymysg £210 yn cynnwys TAW

Dysgu Ar-lein £180 yn cynnwys TAW

Pecyn hyfforddi cyn-gofrestru i warchodwyr plant

Dysgu Cymysg £390 yn cynnwys TAW

Dysgu Ar-lein £360 yn cynnwys TAW

Am mwy o wybodaeth cysylltwch â swyddfa PACEY Cymru ar paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351 407.