First aid training in Wales/Cymorth Cyntaf yng Nghymru

Darllenwch hyn yn Gymraeg yma.  Read this in Welsh here.

PACEY Cymru has worked with Proactive First Aid for a number of years to offer accredited paediatric first aid training.

Proactive First Aid is an experienced training company working across Wales. The paediatric first aid training they deliver is accredited by the Qualifications Network UK (QNUK) and regulated by Ofqual. Proactive First Aid believes the quality of their training is enhanced by the experience their trainers have in the real world of emergencies.

How does PACEY Cymru work with Proactive First Aid?

As well as delivering paediatric first aid together, PACEY Cymru works closely with Proactive First Aid to take forward related work that will support ongoing discussions with the Welsh Government, CIW and Cwlwm partners around best practice in relation to first aid training for childcare and early years professionals in Wales.

Does this training meet CIW requirements in line with the National Minimum Standards for Regulated Childcare in Wales?

This training meets the best practice guidelines for first aid training promoted by PACEY. These are that the training;

  • Caters for practitioners caring for children in the absence of their parents
  • Be for a minimum of 12 hours
  • Covers what to include in a first-aid kit for babies and children
  • Demonstrates resuscitation techniques using models of babies and children (including juniors), and gives practitioners a chance to practise on models of each age group
  • Includes how to record accidents and incidents appropriately
  • Includes an assessment of competence before the award of a certificate
  • Meets the requirements of CIW in Wales, as detailed in the supplementary First Aid Guidance for Paediatric First Aid (PFA) Training within Annex B of the National Minimum Standards for Regulated Childcare

What are the benefits of choosing this training?

The training is delivered over two days, usually Saturdays by Proactive First Aid. The benefits to completing this training through Proactive First Aid are:

  • Competitive course cost
  • Quality delivery by qualified assessors with experience in a relevant medical field
  • Accredited training: learners will achieve the Level 3 Award in Paediatric First Aid (QCF)
  • Includes a learner’s handbook- a useful resource to refer back to as needed
  • Delivered on days tailored to meet the needs of working childcare and early years professionals, usually Saturdays
  • Includes refreshments when attending training at the face-to-face events
  • Courses can be held across Wales based on demand
  • Bilingual trainers available to support the needs of Welsh speakers

What are the overall learning outcomes for this training?

To understand:

  • the role and responsibilities of the paediatric first aider (including appropriate contents of a first aid box and the need for recording accidents and incidents).
  • how to provide first aid to an infant/child who is suffering from shock.
  • how to provide first aid to an infant/child with anaphylaxis.
  • how to administer first aid to an infant or a child who is experiencing a seizure.
  • how to complete records relating to illnesses, injuries and emergencies.

To be able to:

  • assess an emergency situation safely and prioritise what action to take.
  • Provide first aid to an infant/child;
    1. who is unresponsive and breathing normally
    2. who is unresponsive and not breathing normally
    3. who is having a seizure
    4. who has a foreign body airway obstruction (ie. choking)
    5. with external bleeding
    6. who is suffering from hyovolemic shock (caused by severe blood loss).
  • administer first aid to an infant/child;
    1. with injuries to bones, joints and muscles
    2. with head and spinal injuries
    3. with conditions affecting the eyes, ears and nose (including injuries and/or foreigh bodies)
    4. with a chronic medical condition or sudden illness (including a diabetic emergency; an asthma attack; an allergic reaction; sepsis; meningitis; and/or febrile convulsions.)
    5. who is experiencing the effects of extreme heat or cold
    6. who has sustained an electric shock
    7. with burns or scalds
    8. who has been, or is suspected of being, poisoned
    9. who has been bitten or stung
    10. with minor injuries.

Special discount for PACEY members!

Click on this link to find out more about how to access a 10% discount on this training.

How do I book on to first aid training?

To access your discount as a PACEY member, follow this link. Please use the link below to book a Paediatric First Aid course with Proactive First Aid, you can book a date and time to suit you.

Book here

To enquire about courses in your area, or for further information please contact Proactive First Aid Solutions on 02921 401178 or email info@proactivefirstaid.co.uk 

What others have said...

"Brilliant course- loved the real-life scenarios and examples.  I've come away feeling much more confident about First Aid"

Registered childminder, Blaenau Gwent.

"Very informative course which was all useful.  The trainer had lots of examples from first hand experiences to share which I feel is the best way to learn"

Pre-registration childminder, south Wales.

“Proactive First Aid delivered exceptional professional training to the staff team using a range of learning methods which ensured all aspects and understanding of the vital life saving skills were completely embedded within us all and I cannot recommend them highly enough.

"Questions were encouraged and fully answered in a very relaxing environment where you were not afraid to question or share your thoughts and experiences with the whole team.

"Fresh with the information and high level of training received from the Proactive First Aid trainers, one of our newly qualified staff had the confidence to help in a real life CPR emergency at the side of the road with an adult stranger and her actions helped to revive and save his life.”

Manager, Childcare Provider, Cardiff.

Mae PACEY Cymru wedi gweithio gyda Proactive First Aid am flynyddoedd lawer i gynnig hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig achrededig.

Mae Proactive First Aid yn gwmni hyfforddi sy’n gweithio ym mhob rhan o Gymru. Mae’r hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig y mae’n ei gyflwyno wedi’i achredu gan Qualifications Network UK (QNUK) a’i reoleiddio gan Ofqual. Mae Proactive First Aid yn credu bod y profiadau y mae’r hyfforddwyr yn eu cael mewn achosion o argyfwng go iawn yn cyfoethogi ansawdd ei hyfforddiant.

Sut mae PACEY Cymru yn gweithio gyda Proactive First Aid?

Yn ogystal â darparu hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig ar y cyd, mae PACEY Cymru yn gweithio’n agos gyda Proactive First Aid i ddatblygu gwaith cysylltiedig fydd yn cefnogi trafodaethau parhaus gyda Llywodraeth Cymru, AGC a phartneriaid Cwlwm ynghylch yr arfer gorau o ran hyfforddiant cymorth cyntaf ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

A yw’r hyfforddiant hwn yn bodloni gofynion AGC mewn perthynas â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru?

Mae’r hyfforddiant yn bodloni’r canllawiau arfer gorau ar gyfer hyfforddiant cymorth cyntaf a hyrwyddir gan PACEY. Mae’r rhain yn golygu bod yr hyfforddiant yn:

  • Addas i ymarferwyr sy’n gofalu am blant yn absenoldeb eu rhieni
  • Para o leiaf 12 awr
  • Ymdrin â’r hyn y dylid ei gynnwys mewn pecyn cymorth cyntaf i fabanod a phlant
  • Dangos technegau adfywio gan ddefnyddio modelau o fabanod a phlant, ac yn rhoi’r cyfle i ymarferwyr ymarfer ar fodelau o bob un grŵp oedran
  • Cynnwys sut mae cofnodi damweiniau a digwyddiadau’n briodol
  • Cynnwys asesiad o gymhwysedd cyn dyfarnu tystysgrif
  • Bodloni gofynion AGC yng Nghymru fel y manylir yn y Canllawiau Cymorth Cyntaf Atodol ar gyfer Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig mewn Atodiad B o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Beth yw manteision dewis yr hyfforddiant hwn?

Caiff yr hyfforddiant ei gyflwyno dros ddau ddiwrnod, ar ddydd Sadwrn gan amlaf, gan Proactive First Aid. Mae manteision cwblhau’r hyfforddiant hwn drwy Proactive First Aid yn cynnwys y canlynol:

  • Mae cost y cwrs yn gystadleuol
  • Caiff y cwrs ei gyflwyno i safon uchel gan aseswyr â phrofiad o faes meddygol perthnasol
  • Hyfforddiant achrededig: bydd dysgwyr yn ennill Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig (QCF)
  • Mae’n cynnwys llawlyfr i ddysgwyr y gellir cyfeirio yn ôl ato yn ôl yr angen
  • Caiff ei gyflwyno ar ddiwrnodau sy’n cyd-fynd ag anghenion gweithwyr proffesiynol ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, ar ddydd Sadwrn gan amlaf
  • Yn cynnwys lluniaeth wrth fynychu hyfforddiant yn y digwyddiadau wyneb yn wyneb 
  • Mae’r cwrs yn cynnwys cinio a lluniaeth ar ddau ddiwrnod yr hyfforddiant
  • Gellir cynnal y cyrsiau ar hyd a lled Cymru yn ôl y galw
  • Mae hyfforddwyr dwyieithog ar gael i gefnogi anghenion siaradwyr Cymraeg

Beth yw deilliannau dysgu cyffredinol yr hyfforddiant hwn?

Deall y canlynol:

  • rôl a chyfrifoldeb swyddog cymorth cyntaf pediatrig (gan gynnwys yr hyn a ddylai fod mewn blwch cymorth cyntaf a'r angen i gofnodi damweiniau a digwyddiadau).
  • sut mae rhoi cymorth cyntaf i faban/plentyn sy’n dioddef o sioc.
  • sut mae rhoi cymorth cyntaf i faban/plentyn ag anaffylacsis.
  • sut mae rhoi cymorth cyntaf i faban/plentyn sy'n dioddef trawiad.
  • sut mae cwblhau cofnodion yn ymwneud ag afiechydon, damweiniau ac argyfyngau.

Gallu gwneud y canlynol:

  • asesu sefyllfa argyfyngus yn ddiogel a blaenoriaethu’r camau i'w cymryd.
  • Rhoi cymorth cyntaf i faban/plentyn;
    • sy’n anymatebol ac yn anadlu’n arferol
    • sy’n anymatebol ac nad yw’n anadlu’n arferol
    • sy'n dioddef trawiad
    • sydd â chorffyn estron yn rhwystro’r llwybr anadlu (h.y. tagu)
    • sy'n gwaedu'n allanol
    • sy'n dioddef o sioc hypofolemig (yn sgil colli llawer o waed).
  • rhoi cymorth cyntaf i faban/plentyn;
  • ag anafiadau i esgyrn, cymalau a chyhyrau
  • ag anafiadau i’r pen a’r asgwrn cefn
  • â chyflyrau sy’n effeithio’r llygaid, clustiau a’r trwyn (sy’n cynnwys anafiadau ac/neu pethau estron)
  • â chyflwr meddygol cronig neu salwch sydyn (sy’n cynnwys argyfwng diabetig; pwl asthma; adwaith alergaidd; sepsis, llid yr ymennydd; a/neu ffitiau twymyn)
  • sy’n dioddef effeithiau gwres neu oerfel eithafol
  • sydd wedi cael sioc drydan
  • sydd â llosgiadau neu sgaldiadau
  • sydd wedi, neu amjeuir ei fod wedi’i wenwyno
  • sydd wedi’i gnoi neu ei bigo
  • â mân anafiadau

Gostyngiad arbennig i aelodau PACEY!

Cliciwch ar y ddolen hon i ddysgu sut i gael mynediad at ostyngiad o 10% ar yr hyfforddiant hwn.

Sut mae cadw lle ar hyfforddiant cymorth cyntaf?

I gael mynediad at eich gostyngiad fel aelod PACEY, dilynwch y ddolen hon. Defnyddiwch y ddolen isod i archebu cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig gyda Chymorth Cyntaf Rhagweithiol, gallwch archebu dyddiad ac amser sy'n gyfleus i chi.

Archebwch yma

Er mwyn holi am y cyrsiau sydd ar gael yn eich ardal chi, neuam ragor o wybodaeth, cysylltwch â Proactive First Aid Solutions ar 02921 401178 neu e-bostiwch info@proactivefirstaid.co.uk

Yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud…

“Cwrs gwych - roeddwn i’n dwlu ar y senarios a’r enghreifftiau bywyd go iawn.  Mae gen i fwy o hyder ynghylch Cymorth Cyntaf oherwydd y cwrs”

Gwarchodwr plant cofrestredig, Blaenau Gwent.

“Cwrs llawn gwybodaeth ddefnyddiol.  Roedd gan yr hyfforddwr lawer o enghreifftiau o brofiad personol i’w rhannu. Rwy’n teimlo mai dyna’r ffordd orau o ddysgu”

Gwarchodwr plant cyn cofrestru, de Cymru.

“Cyflwynodd Proactive First Aid hyfforddiant proffesiynol rhagorol i’r staff gan ddefnyddio ystod o ddulliau dysgu a oedd yn sicrhau bod holl ddealltwriaeth ac agweddau ar y sgiliau hanfodol o ran achub bywydau’n cael eu hymgorffori’n llawn ynddon ni i gyd, ac rydw i’n ei argymell yn gryf.

“Roedd cwestiynau’n cael eu hannog a’u hateb yn llawn mewn amgylchedd hamddenol iawn lle nad oeddech chi’n ofni cwestiynu na rhannu eich sylwadau a phrofiadau gyda’r tîm cyfan.

“Gyda’r wybodaeth a’r hyfforddiant lefel uchel a gafwyd gan hyfforddwyr Proactive First Aid yn ffres yn y meddwl, roedd gan un o’n staff newydd gymhwyso yr hyder i helpu mewn argyfwng adfywio cardio-pwlmonaidd go iawn ar ochr y ffordd gydag oedolyn dieithr. Roedd ei chamau wedi helpu i’w adfywio ac achub ei fywyd.”

Rheolwr, Darparwr Gofal Plant, Caerdydd.